Dadansoddiad manwl o sut mae Hunanadeiladu Cymru yn gweithio
Ein proses

Cam 1
Defnyddiwch ein gwefan i chwilio am safleoedd, dod o hyd i'ch plotiau, dewis hyd at 5 a gwneud cais ar-lein.

Cam 2
Adolygir eich cais ac os bydd yn llwyddiannus dyfernir plot i chi.

Cam 3
Byddwn yn gweithio â chi i ddod o hyd i adeiladwr, cadarnhau eich dyluniadau a'ch costau, a chytuno ar gyllid.

Cam 4
Dyfernir cyllid, cwblheir yr adeilad, ad-delir y benthyciad hunan-adeiladu a byddwch chi’n symud i mewn!
Eglurwyd broses
Cam 1 - Chwilio / dod o hyd / ymgeisio ar-lein
- Chwilio am blotiau trwy'r dudalen Dod o hyd i blot
- Chwilio yn ôl lle neu god post.
- Mae plotiau wedi'u lleoli mewn safleoedd a ddangosir trwy'r ‘golwg ar y map’ neu ‘golwg ar y rhestr’
- Mae pob safle yn dilyn system goleuadau traffig i ddangos argaeledd:
- Statws coch = O dan ystyriaeth
- Statws Ambr = Yn y cam cynllunio
- Statws gwyrdd = Agored i geisiadau (dim ond safleoedd sydd â statws gwyrdd fydd â phlotiau y gallwch wneud cais amdanynt)
- Cliciwch drwodd i dudalen safle i weld map safle a'r plotiau (os yw ar gael)
- Edrychwch ar dudalen pasbort plot i weld yr holl wybodaeth am blot gan gynnwys costau plot, uchafswm yr ystafelloedd gwely, y canllaw dylunio ac unrhyw flaenoriaethau a osodir gan awdurdodau lleol neu gymdeithas dai.
- Gwnewch gais am hyd at bump plot ar y tro ar safle, cadarnhau eich dyluniadau a'ch plot yn ôl blaenoriaeth, a chwblhau'r ffurflen gais ar-lein.
- Dim ond am gyfnod o oddeutu chwe wythnos y bydd safleoedd â statws Gwyrdd yn fyw (ar agor i wneud cais).
- Gallwch chi gofrestru i gael hysbysiadau e-bost i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd mae safleoedd / plotiau ar gael - gweler 'Cofrestrwch ar gyfer hysbysiadau safleoedd' isod.
Cam 2 - Adolygu'r cais / dyfernir plotiau os yw'n llwyddiannus
- Asesir y cais a gyflwynwyd gennych a'i sgorio gan y darparwr plotiau perthnasol yn seiliedig ar y blaenoriaethau a osodwyd ar gyfer yr ardal (a amlinellir ar y dudalen pasbort plot).
- Os byddwch yn llwyddiannus byddwch yn cael plot sengl ac anfonir pecyn cais cyllid atoch gan dîm Hunan Adeiladu Cymru. Sylwch y bydd unrhyw blotiau eraill y gwnaethoch gais amdanynt yn annilys.
- Os byddwch yn aflwyddiannus, fe'ch hysbysir gan dîm Hunan-adeiladu Cymru a byddwch yn rhydd i ailymgeisio am blotiau pellach.
Cam 3 - Dod o hyd i adeiladwr / Cadarnhau dyluniad a chostau / Cytuno cyllid
- Byddwch chi'n darparu manylion llawn yr adeiladwr sy’n gofrestredig â TrustMark o'ch dewis chi.
- Rydych chi'n dewis y dyluniad a ffefrir ar gyfer yr adeilad, yn cael dyfynbris gan y contractwr o'ch dewis ac yn cadarnhau costau amlinellol cychwynnol y prosiect. Mae Cofrestr o Gynghorwyr Annibynnol (Masnachwyr Adeiladwyr) sy'n gwbl gyfarwydd â'r cynllun ac yn gallu darparu cyngor ar gostiadau / deunyddiau ac ati.
- Rydych chi'n darparu prawf / ffynhonnell arian ar gyfer blaendal am y plot (25% o gost y plot)
- Rydych chi'n ceisio cyngor ariannol annibynnol i sicrhau bod gennych y modd (ecwiti neu forgais presennol) i ad-dalu benthyciad hunan- adeiladu ar gyfer prynu'r plot a'r costau adeiladu cysylltiedig (mae angen tystiolaeth).
- Bydd eich cynghorydd morgais yn cyflwyno cais ar eich rhan i dîm Hunan Adeiladu Cymru a fydd yn asesu eich gwybodaeth ac, os caiff ei gymeradwyo, cyflwynir llythyr cynnig ffurfiol i chi yn cadarnhau bod y benthyciad wedi'i gytuno ac fe restrir unrhyw amodau sydd ynghlwm i’r cynnig.
Cam 4 - Darperir y cyllid / cwblheir yr adeilad / ewch ati i symud i mewn!
- Cwblheir costiadau'r prosiect gan gynnwys yswiriannau a gwarantau.
- Cwblheir unrhyw amodau cyn contract.
- Cytunir ar amserlen y prosiect ac amserlen ariannu gydag adeiladwr (wyr) a'r ymgeisydd / ymgeiswyr.
- Mae pryniant y plot wedi'i gwblhau ac mae'r gwaith adeiladu yn dechrau
- Mae'r tîm Hunan Adeiladu Cymru yn monitro cynnydd y gwaith adeiladu, ar y cyd â'r gweithwyr rheolaeth adeiladu penodedig, gan sicrhau bod pob cam y cytunwyd arno ymlaen llaw yn cael ei gwblhau i'r safonau gofynnol - bydd arian yn cael ei ryddhau'n uniongyrchol i'ch adeiladwr ar ôl cwblhau pob cam i sicrhau bod y gwaith adeiladu'n yn mynd rhagddo'n ddi-dor a heb oedi.
- Cymeradwyir y rheoliadau adeiladu a cheir tystysgrif gwarant strwythurol.
- Cwblheir morgais / gwerthiant o'r eiddo presennol ac ad-delir y benthyciad datblygu hunan-adeiladu.
- Ewch ati i symud i mewn!
Hysbysiadau safle
Mae gwefan Hunan Adeiladu Cymru yn caniatáu ar gyfer sefydlu ystod o hysbysiadau e-bost i roi gwybod i chi am weithgaredd y safle.
Wrth ddod o hyd i blot mae pob safle yn dilyn system argaeledd goleuadau traffig:
Colour | Site status | Details |
---|---|---|
Coch | O dan ystyriaeth |
Mae hyn yn golygu bod y safle wedi’i nodi gan ‘ddarparwr y plot’ (Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Tai) fel un a allai fod yn addas ar gyfer ei ddatblygu, fodd bynnag, mae’n destun gwiriadau hyfywedd cychwynnol. Gallwch gyflwyno mynegiad o ddiddordeb yn y plotiau hyn trwy dudalen y safle a byddwn yn cysylltu â chi pan fyddant yn newid statws. |
Ambr | Yn y cam cynllunio |
Mae hyn yn golygu bod gwaith galluogi yn digwydd i sicrhau ei fod mewn cyflwr addas ar gyfer datblygu a / neu mae'n aros am ganiatâd cynllunio. Gallwch gyflwyno mynegiad o ddiddordeb yn y plotiau hyn trwy dudalen y safle a byddwn yn cysylltu â chi pan fyddant ar agor ar gyfer ceisiadau. |
Gwyrdd | Agored i geisiadau |
Mae'r safleoedd hyn yn barod i'w datblygu ac mae ganddynt basbortau plot llawn a chaniatâd cynllunio amlinellol yn eu lle. Mae'r safleoedd hyn ar gael ar gyfer ceisiadau (ond dim ond am gyfnod cyfyngedig - o tua chwe wythnos fel rheol). |
Llwyd | Wedi Cau |
Nid yw'r safle ar gael ar gyfer ceisiadau mwyach |
Mynegi diddordeb (rydych chi wedi dod o hyd i safle ond nid oes plotiau ar gael eto).
Efallai y byddwch yn dod o hyd i safle y mae gennych ddiddordeb ynddo, ond nid yw'r plotiau ar agor i geisiadau eto.
Er mwyn helpu gyda hyn, gallwch gofrestru ar gyfer hysbysiadau e-bost ar gyfer y sefyllfaoedd a ganlyn
- Rydych chi wedi dod o hyd i safle rydych chi'n ei hoffi ond mae hwn o dan ystyriaeth (statws coch)
- Rydych chi wedi dod o hyd i safle rydych chi'n ei hoffi ond mae yn y cam cynllunio yn unig (statws ambr)
Mewn sefyllfaoedd o'r fath, gallwch gofrestru mynegiant o ddiddordeb ar y dudalen safle unigol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn anfon hysbysiad e-bost atoch i ddweud wrthych pan fo:
- safleoedd sydd o dan ystyriaeth (statws coch) wedi symud i'r cam cynllunio (statws ambr).
- safleoedd sydd yn y cam cynllunio (statws ambr) wedi dod yn agored i geisiadau (statws gwyrdd)
Cofrestru diddordeb (ni allwch ddod o hyd i safle yn eich ardal chi).
Os na allwch ddod o hyd i unrhyw safleoedd yn eich ardal leol peidiwch â phoeni gallwch gwblhau'r drefn o gofrestru diddordeb i gael hysbysiadau plot.
Mae hyn yn golygu y byddwn yn anfon hysbysiad e-bost atoch pan fydd safle yn ymddangos yn eich ardal (oedd) lleol diffiniedig fel y gallwch ymweld â'r safle i wybod mwy.
Sylwch nad yw Hunanadeiladu Cymru yn gallu rheoli unrhyw un o'i hysbysiadau e-bost sy'n cael eu blocio neu eu trin fel post sothach gan ddarparwyr e-bost (Gmail, Hotmail, Outlook, Yahoo Mail, ac ati). Rydym yn argymell yn gryf y dylid gwirio'ch ffolderau sothach os ydych chi'n disgwyl am unrhyw hysbysiadau gan Hunan Adeiladu Cymru a nodi bod unrhyw ohebiaeth a dderbynnir yn ddibynadwy.
Cyn i chi wneud cais
Cyn i chi wneud cais gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr holl wybodaeth ar y dudalen Ar gyfer ymgeiswyr.
Yna gallwch ddechrau Dod o hyd i blot.