Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wefan hon ar gael i bawb. Rydym wedi anelu at sicrhau bod y wefan hon yn cydymffurfio â'r canllawiau canlynol:
- XHTML 1.0 Transitional
- CSS 2.0
- WAI Single A
Er mwyn dilysu ein cod, rydym wedi defnyddio Total Validator.
Mae Total Validator yn declyn meddalwedd cynhwysfawr ar y we sydd wedi'i gynllunio i helpu i ddatgelu a chywiro elfennau sy'n rhwystro hygyrchedd ac annog cydymffurfiaeth â chanllawiau hygyrchedd presennol.
Allweddau Hygyrchedd
Fel ffordd o'ch cynorthwyo chi, mae bysellau mynediad y safle wedi cael eu gosod ar bob un o'r prif gysylltiadau a gellir eu gweithredu'n hawdd trwy ddefnyddio'r bysellau isod.
Os nad ydych chi'n gwybod sut i ddefnyddio allwedd mynediad, dilynwch y cyfarwyddiadau isod: Porwyr ar gyfer Cyfrifiaduron Personol (PCs)
- Firefox 2+ - daliwch y bysellau ALT a SHIFT i lawr, yna pwyswch rif y bysell mynediad
- Safari - daliwch y bysell ALT i lawr a gwasgwch rif y bysell mynediad
- Chrome - daliwch y bysell ALT i lawr a gwasgwch rif y bysell mynediad
- Opera 9+ - daliwch y bysell SHIFT ac ESC i lawr a bydd y rhestr o fysellau mynediad yn ymddangos.
- Internet Explorer 5+ - daliwch y bysell ALT i lawr, pwyswch y bysell mynediad, rhyddhau popeth a phwyswch ENTER
Porwyr ar gyfer Macs
- Firefox - daliwch y bysellau CTRL ac OPTION i lawr, pwyswch rif y bysell mynediad
- Safari - daliwch y bysellau CTRL ac OPTION i lawr, pwyswch rif y bysell mynediad
- Chrome - daliwch y bysellau CTRL ac OPTION i lawr, pwyswch rif y bysell mynediad
- Opera 9+ - daliwch y bysell SHIFT ac ESC i lawr a bydd y rhestr o fysellau mynediad yn ymddangos