Cymorth

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin am gynllun Hunanadeiladu Cymru.

Ar gyfer ymgeiswyr - Cyffredinol

Mae cynllun Hunanadeiladu Cymru wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i helpu i gael gwared ar y rhwystrau a'r ansicrwydd sy'n rhwystro pobl yng Nghymru rhag adeiladu eu cartrefi eu hunain.

Wrth wneud hynny, bydd tir annatblygedig neu a dan-ddefnyddir yn cael ei drawsnewid yn blotiau addas ar gyfer cartrefi hunanadeiladu a rhai wedi eu hadeiladu'n bwrpasol.

Mae plotiau ar gael gyda dyluniadau wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw i ddewis ohonynt a chaniatâd cynllunio yn ei le.

Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni gan Fanc Datblygu Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Cyllid drwy Fanc Datblygu Cymru

Gwaredir ar y cyfyngiad sydd yn aml yn gysylltiedig â datblygiadau hunanadeiladu, gan Fanc Datblygu Cymru sy’n rheoli cronfa gwerth £40 miliwn sy'n darparu benthyciadau datblygu hunanadeiladu i dalu 75% o gost y plot ynghyd â'r costau adeiladu llawn.

I gael mwy o wybodaeth am gyllid, ewch i weld y dudalen Ar gyfer ymgeiswyr.

 

Mae hunanadeiladu yn un o'r ychydig weithgareddau lle mae prynu pwrpasol yn fwy cost effeithiol na phrynu'r hyn sy'n gyfatebol sydd wedi ei wneud yn barod. Mae'n cael gwared ar elw datblygwyr ac yn rhoi cyfle i chi adeiladu cartref sydd wedi'i deilwra'n fwy gyda'ch ffordd chi o fyw yn ogystal â'ch cyllideb.

Ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i chi fyw yng Nghymru i wneud cais i fod yn rhan o’r cynllun ond rhaid i chi adeiladu eich cartref newydd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, dyma'r unig gynllun o'i fath yn y DU.

Mae plotiau ar gael i bawb, nid dim ond ar gyfer prynwyr tro cyntaf. Mae Hunanadeiladu Cymru wedi cael ei gynllunio i weddu i gynifer o anghenion â phosib gan gynnwys y rhai sydd angen tŷ mwy, sy'n bwriadu lleihau maint eu cartref ond eisiau aros yn eu hardal neu'n chwilio am gartref wedi'i addasu. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r eiddo fod yn brif breswylfa ac yn unig eiddo i'r ymgeisydd.

Dylai safleoedd fod yn ‘Agored ar gyfer Ceisiadau’ (statws gwyrdd) am hyd at 6 wythnos ar y map a'r rhestr Dod o Hyd i Blot. Yn dibynnu ar nifer yr ymgeiswyr, gallai gymryd hyd at ddau fis i’w asesu’n llawn ac i wneud penderfyniadau terfynol er, yn y rhan fwyaf o achosion, dylai fod yn llawer cynt na hynny.

Os ydych chi eisiau canfod mwy o wybodaeth am y cynllun, gallwch:

Gallwch - ar yr amod bod gennych fodd i ad-dalu'r benthyciad Hunanadeiladu Cymru o fewn y cyfnod o 24 mis. Gallai hyn fod trwy werthu eich cartref presennol os ydych chi'n symud i le llai. Cyn gwneud cais am y cynllun, rydym yn argymell bod pob cwsmer yn cael cyngor annibynnol morgais eu hamgylchiadau unigol i sicrhau bod y cynllun yn addas yn fan hyn.

Gallwch - ar yr amod eich bod yn cwrdd â'r meini prawf fforddiadwyedd ac yn gymwys i gael morgais i ad-dalu'r benthyciad hunanadeiladu o fewn y cyfnod o 24 mis. Bydd angen i chi ofyn am gyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol a fydd yn gallu asesu amgylchiadau unigol i sicrhau bod y cynllun yn addas.

Dim ond i brynu plot trwy'r map rhyngweithiol y gellir defnyddio'r cynllun Hunanadeiladu Cymru, ac i ariannu'r datblygiad dilynol ar y plot hwnnw. Ni ellir defnyddio'r benthyciad Hunanadeiladu Cymru fel mecanwaith cyllido i adeiladu eiddo ar blot sy'n eiddo preifat.

 Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â sefydliad ariannol sy'n arbenigo mewn morgeisi hunan-adeiladu yn yr achos hwn.

Ar gyfer ymgeiswyr - Adeiladu eich cartref

Bydd pob plot yn dod gyda phasbort plot a fydd yn cynnwys y dyluniadau sydd wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw ar gyfer y safle hwnnw. Dylai ymgeiswyr adeiladu cartref gan ddefnyddio un o'r dyluniadau a gymeradwywyd ymlaen llaw o basbort y plot. Mae'r dyluniadau'n amrywio o ran maint a chost o 2 ystafell wely hyd at 5 ystafell wely.

Bydd effeithlonrwydd ynni yn flaenoriaeth allweddol i bob plot.

Sylwch mai dim ond mannau cychwyn yw dyluniadau o'r fath a gellir addasu dyluniadau i weddu i ddeiliaid a safleoedd penodol. Fodd bynnag, gallai gwneud hynny effeithio ar y costau adeiladu cyffredinol.

Mwyafswm hyd cyfnod y benthyciad hunanadeiladu yw 24 mis. Unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau, bydd yr ymgeisydd yn ad-dalu'r benthyciad yn llawn trwy forgais safonol neu trwy werthu eu cartref presennol os ydynt yn symud i eiddo llai. Felly, dylai'r eiddo fod mewn cyflwr addas i gael morgais o fewn 24 mis. Gan fod llawer o'r gwaith cynllunio a’r gwaith ar y safle wedi'i gwblhau cyn gwneud cais, rhagwelir y bydd yr amser sy'n ofynnol i adeiladu mwyafrif y cartrefi yn sylweddol fyrrach na 24 mis.

Bydd pob eiddo a adeiladir o dan y cynllun yn elwa o warantau strwythurol llawn gyda chefnogaeth yswiriant gan ddarparwyr addas fel LABC, NHBC, Zurich, Checkmate, CRL ac ati ac fe fydd rheoliadau adeiladu yn eu cymeradwyo. Ymdrinnir â hyn fel rhan o gost y plot.

Mwyafswm tymor y benthyciad hunanadeiladu yw 24 mis. Bydd ymgeiswyr na allant gwblhau'r gwaith adeiladu / ad-dalu'r benthyciad o fewn y cyfnod hwn yn cael eu hasesu fesul achos.

Gall ymgeiswyr dynnu eu cais yn ôl ar unrhyw adeg cyn prynu'r tir. Ar ôl i'r tir gael ei brynu, pe bai'r ymgeisydd yn dymuno tynnu'n ôl, byddent mewn perygl o golli rhywfaint neu'r cyfan o'u blaendal a gallent fod yn atebol am unrhyw ffioedd neu daliadau a godwyd trwy gydol y broses hyd yn hyn.

Os bydd newid eithriadol mewn amgylchiadau personol yn ystod y cyfnod adeiladu, bydd tîm Hunanadeiladu Cymru yn asesu pob achos yn ôl ei deilyngdod ei hun.

Oherwydd ein bod ni'n mynnu defnyddio adeiladwyr cofrestredig TrustMark, bydd yr holl waith hunanadeiladu yn dod gyda gwell gwarchodaeth trwy gyfrwng rhwydwaith o ddarparwyr Cynllun ac integreiddio Safonau Masnach petai pethau'n mynd o chwith.

Ni all ymgeiswyr llwyddiannus rentu na gwerthu eu cartref newydd am o leiaf 5 mlynedd ar ôl ei gwblhau. Os gwerthir yr eiddo o fewn y 5 mlynedd cyntaf, bydd yr holl elw sy'n weddill - ar ôl i'r benthyciwr gael ei dalu'n llawn - yn daladwy i Hunanadeiladu Cymru.

Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd tîm Hunanadeiladu Cymru yn adolygu hyn fesul achos. Os byddwch chi'n canfod eich hun yn y sefyllfa hon, cysylltwch â'r tîm Hunanadeiladu Cymru cyn gynted â phosib a byddwn ni'n gweithio gyda chi.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus feddiannu eu cartref newydd am o leiaf 5 mlynedd wedi iddo gael ei gwblhau. Ni chaniateir iddo gael ei rentu i eraill yn ystod y cyfnod hwn.

Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd tîm Hunanadeiladu Cymru yn adolygu hyn fesul achos. Os byddwch chi'n canfod eich hun yn y sefyllfa hon, cysylltwch â'r tîm Hunanadeiladu Cymru cyn gynted â phosib a byddwn ni'n gweithio gyda chi.

Pe bai'n rhaid i chi werthu'r cartref cyn pen pum mlynedd, byddai'r holl elw gwerthu sydd ar ôl wedi i fenthyciwr y morgais gael ei ad-dalu'n llawn yn ddyledus i Hunanadeiladu Cymru.

Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd tîm Hunanadeiladu Cymru yn adolygu hyn fesul achos. Petaech chi'n canfod eich hun yn y sefyllfa hon, cysylltwch â'r tîm Hunan Adeiladu Cymru cyn gynted â phosib a byddwn ni'n gweithio gyda chi.

O leiaf gyda Rheoliad Adeiladu Rhan L, yn unol â safonau'r diwydiant. Fodd bynnag, bydd cynyddu effeithlonrwydd ynni eich cartref newydd yn cynyddu eich siawns o gael plot oherwydd fe roddir blaenoriaeth i'r eiddo mwyaf effeithlon o ran ynni.

Ar gyfer ymgeiswyr - Safleoedd a phlotiau

Mae'r holl blotiau wedi'u lleoli mewn safleoedd o amgylch Cymru.

I ddod o hyd i blot yn gyntaf mae'n rhaid i chi ddod o hyd i safle ar y dudalen Dod o hyd i blot.

I weld manylion plot (pasbort y plot) mae angen i chi ymweld â thudalen safle unigol.

Fodd bynnag, dim ond safleoedd â statws gwyrdd (ar agor ar gyfer ceisiadau) fydd â phlot ar y dudalen safleoedd.

Dim ond manylion sy'n berthnasol i'r safle fydd y safleoedd sydd â statws coch ac ambr yn eu cynnwys gan nad ydynt yn barod i symud ymlaen i'r cam ymgeisio.

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen mynegi diddordeb ar y tudalennau hyn i gofrestru i gael hysbysiadau e-bost i ddilyn y cynnydd a wneir.

Mae argaeledd y safleoedd (ac felly'r plotiau) yn dibynnu ar ba ddarparwr plot (Awdurdod Lleol / Cymdeithas Dai) sy'n cymryd rhan yn y cynllun.

Mae safleoedd sydd â statws coch yn cael eu hystyried. Mae hyn yn golygu bod y safle wedi cael ei nodi gan ddarparwr y plot (Awdurdod Lleol / Cymdeithas Dai) fel safle a allai fod yn addas i'w ddatblygu ond mae'n destun gwiriadau hyfywedd cychwynnol. Gallwch fynegi diddordeb yn y safleoedd hyn trwy gyfrwng tudalen y safle a byddwn yn cysylltu â chi pan fyddant yn newid statws.

Mae safleoedd sydd â statws ambr yn y cam Cynllunio. Mae hyn yn golygu bod y safle'n cael ei alluogi i sicrhau ei fod mewn cyflwr addas ar gyfer datblygu a / neu'n aros am ganiatâd cynllunio. Gallwch fynegi diddordeb yn y safleoedd hyn trwy dudalen y safle a byddwn yn cysylltu â chi pan fyddant ar agor ar gyfer ceisiadau.

Mae safleoedd sydd â statws gwyrdd Ar agor ar gyfer ceisiadau. Mae'r safleoedd hyn yn barod i'w datblygu ac mae pasbortau plot llawn ar gael gyda chaniatâd cynllunio amlinellol yn ei le. Mae'r plotiau hyn ar gael ar gyfer ceisiadau (ond dim ond am gyfnod cyfyngedig - tua chwe wythnos fel arfer).

Mae safleoedd sydd â statws llwyd ar gau - Nid yw'r safle yn agored ar gyfer ceisiadau mwyach.

Gall hyn amrywio, mae'r broses o asesu hyfywedd safle, cael caniatâd cynllunio a gosod y gwasanaethau / cyfleustodau i gyd yn destun llawer o newidynnau. Gall hyn oll effeithio ar ba mor hir y mae'n ei gymryd i baratoi safle i fod ar agor ar gyfer ceisiadau (statws gwyrdd).

Mae safle gwyrdd sydd ar agor ar gyfer ceisiadau fel arfer yn ddilys am gyfnod o hyd at chwe wythnos. Ar ôl hynny, bydd yn cael ei farcio ar gau.

Nid yw ceisiadau yn cael eu gwneud ar sail ‘y cyntaf i’r felin,’ byddant yn cael eu hasesu ar sail y blaenoriaethau a osodir gan ddarparwyr y plotiau.

Gallwch gofrestru i gael hysbysiadau e-bost trwy ffurflen mynegi diddordeb ar dudalen y safle.

Mae'r rhain yn caniatáu i chi dderbyn diweddariadau ynghylch pryd mae'r safle penodol hwnnw'n newid statws.

Er enghraifft, gallwch dderbyn diweddariad e-bost pan fo:

  • Safle sydd â statws coch (o dan ystyriaeth) yn newid i statws ambr (yn y cam cynllunio).
  • Safle sydd â statws ambr (yn y cam cynllunio) yn newid i statws gwyrdd (ar agor ar gyfer ceisiadau).

Mae hyn yn caniatáu i chi ddilyn cynnydd safle lle nad oes unrhyw blotiau ar gael hyd at y pwynt pan ddaw'n agored ar gyfer ceisiadau a phan ddaw'r plotiau'n fyw.

Os na allwch ddod o hyd i unrhyw safleoedd yn eich ardal leol peidiwch â phoeni, gallwch gwblhau cofrestriad diddordeb i gofrestru i gael diweddariadau.

Mae hyn yn golygu y byddwn yn anfon hysbysiad e-bost atoch pan fydd safle yn ymddangos yn eich ardal (oedd) lleol diffiniedig fel y gallwch ymweld â'r safle i ganfod mwy.

Sylwch os gwelwch yn dda na all Hunanadeiladu Cymru reoli unrhyw un o'i hysbysiadau e-bost sy'n cael eu blocio neu ei drin fel post sothach gan ddarparwyr e-bost (Gmail, Hotmail, Outlook, Yahoo Mail, ac ati). Rydym yn argymell yn gryf y dylid gwirio'ch ffolderi sothach os ydych chi'n aros am  unrhyw hysbysiadau gan Hunanadeiladu Cymru a nodi bod unrhyw ohebiaeth a dderbynnir yn ddibynadwy.

Bydd pasbort plot yn darparu'r wybodaeth a ganlyn ar gyfer pob plot unigol o dir: -

  • Pris y plot
  • Amodau cynllunio
  • Blaenoriaethau’r darparwr plotiau (Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Tai) ar gyfer yr ardal
  • Dyluniadau eiddo cymeradwy
  • Amcangyfrif o'r costau adeiladu
  • Y broses ymgeisio
  • Unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r plot penodol hwnnw

Gosodir blaenoriaethau ceisiadau gan ddarparwr y plot (Awdurdod Lleol / Cymdeithas Dai) a gallant amrywio o safle i safle. Gall y rhain fod yn unrhyw beth sy'n diwallu eu hanghenion tai a chymdeithasol lleol.

Gellir gweld blaenoriaethau ar gyfer y safle y mae gennych chi ddiddordeb ynddo ym mhasbort y plot ond peidiwch â phoeni os nad ydych yn cwrdd â nhw i gyd, nid ydynt yn ofynion cymhwysedd ar gyfer gwneud cais.

Nod y blaenoriaethau hyn yw helpu darparwr y plot i benderfynu i bwy y dylid dyfarnu'r plot pan fo mwy nag un cais.

Gallwch wneud cais am hyd at bum plot ar unrhyw adeg benodol, ond ar ôl i chi fod yn llwyddiannus ac adeiladu'ch cartref newydd, ni fyddant yn gallu defnyddio'r cynllun eto yn y dyfodol.

Os nad yw safleoedd yn ymddangos ar y map mwyach, efallai y bydd darparwr y plot wedi dod i'r casgliad ei bod yn anymarferol symud ymlaen.

Gallwch wneud cais am sawl safle yn yr un ardal er mwyn cynyddu'r siawns o adeiladu cartref yn eich y lleoliad a ddymunir gennych.

Ar gyfer ymgeiswyr – Cyllid

Oes. Gan fod disgwyl i ymgeiswyr godi morgais i ad-dalu'r benthyciad datblygu hunan-adeiladu unwaith y bydd y plot yn cael ei ddyfarnu, rhaid i chi ymgynghori â chynghorydd morgais cyn cyflwyno'ch ceisiadau cyllid i dîm Hunanadeiladu Cymru. Rhaid cyflwyno ceisiadau cyllid trwy cynghorydd morgais gan ddefnyddio'r pecyn cais y byddwch yn ei dderbyn unwaith y bydd plot yn cael ei ddyfarnu.

Disodlodd treth trafodion tir (TTT) dreth tir treth stamp yng Nghymru o Ebrill 2018 ac fe'i cesglir gan Awdurdod Cyllid Cymru. Defnyddir y dreth a gesglir i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Rhaid i chi dalu treth trafodiad tir os ydych chi'n prynu eiddo neu dir dros bris penodol yng Nghymru.

Y trothwy treth trafodiad tir cyfredol yw £180,000 ar gyfer eiddo preswyl a £225,000 ar gyfer tir ac eiddo di-breswyl (25 Mawrth 2022).

Am fwy o wybodaeth, ewch i weld https://llyw.cymru/treth-trafodiadau-tir-canllaw

 

Nid yw Hunanadeiladu Cymru yn cynnig morgais drwy'r cynllun hwn, rhagwelir yn y rhan fwyaf o achosion y bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu drwy gael morgais ar eich cartref newydd ei adeiladu drwy fenthyciwr safonol ar y stryd fawr.

Unwaith y bydd yr eiddo wedi'i gwblhau bydd ymgeiswyr yn codi morgais safonol trwy fenthyciwr stryd fawr ac yn defnyddio'r arian hwn i ad-dalu hunanadeiladu.

Bydd ymgeiswyr yn talu blaendal o 25% o bris prynu'r plot. Ni fydd Hunanadeiladu Cymru yn codi unrhyw gostau ymlaen llaw eraill mewn perthynas â phrynu’r plot neu adeiladu’r eiddo. Ar ôl i'r blaendal gael ei dalu, ni fydd unrhyw beth i'w dalu hyd nes y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau.

Bydd gennym rwydwaith o gynghorwyr cofrestredig mewn gwahanol fasnachwyr adeiladu ledled Cymru. Gall yr ymgynghorwyr hyn, ynghyd â'r adeiladwr o'ch dewis, eich helpu i amcangyfrif eich costau adeiladu a gallant hefyd eich tywys tuag at y deunyddiau gorau i'w defnyddio. Mae Cofrestr o Gynghorwyr Annibynnol ar gael i'ch helpu gyda chyngor ar gostiadau a deunyddiau.

Nid oes raid i ymgeiswyr wneud unrhyw ad-daliadau ar y benthyciad hyd nes bod yr eiddo wedi'i gwblhau. Unwaith y bydd yr eiddo wedi'i gwblhau bydd yr ymgeisydd naill ai'n codi morgais safonol trwy fenthyciwr ar y stryd fawr, neu'n defnyddio arian o werthiant eu cartref presennol i ad-dalu'r benthyciad hunanadeiladu.

Bydd mwyafswm y benthyciad yn dibynnu ar y plot unigol a gwerth amcanol yr eiddo gorffenedig. Gellir defnyddio'r benthyciad hefyd ar gyfer unrhyw ffioedd proffesiynol a achosir ar yr amod bod y gwerth terfynol yn dal i gwrdd â'r Benthyciad yn Erbyn y Gwerth wedi'i dargedu.

Uchafswm tymor benthyciad Hunanadeiladu Cymru yw 24 mis. Nid oes raid i ymgeiswyr wneud unrhyw ad-daliadau ar y benthyciad hyd nes bod yr eiddo wedi'i gwblhau.

Codir llog ar y benthyciad ond dim ond ar swm yr arian a dynnir i lawr ar wahanol gamau trwy gydol y cyfnod adeiladu. Bydd llog yn cael ei rowlio ymlaen a dim ond ar ddiwedd y cyfnod 24 mis y daw'n daladwy neu pan fydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau, pa bynnag un sydd gyntaf. Mae ffi trefniant hefyd yn daladwy ond, bydd hyn hefyd yn cael ei ychwanegu at y benthyciad ac nid oes rhaid ei dalu nes bod y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau.

Cyn y gallwch symud i'ch cartref newydd, bydd yn rhaid gwerthu'ch eiddo presennol ac ad-dalu'r benthyciad hunanadeiladu.

Gallwch - does dim rheswm o gwbl pam na fyddwch yn gallu cymryd morgais trwy fenthyciwr ar y stryd fawr, ar yr amod bod yr adeilad yn bodloni safonau rheoli adeiladu gyda'r warant ofynnol a'ch bod yn cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd. Mae’r broses ymgeisio yn gofyn i chi gael ‘cytundeb mewn egwyddor’ ar gyfer y morgais felly bydd hwn yn ei le cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.

Mae gan ymgeiswyr hyd yr adeg pan fo’r eiddo'n gyflawn i werthu eu heiddo cyfredol. Ar ôl cwblhau'r eiddo mae'n rhaid i hon fod yr unig breswylfa sydd gan yr ymgeisydd. Bydd ymgeiswyr sy'n profi oedi wrth werthu eu heiddo cyfredol yn cael eu hasesu fesul achos.

Ar gyfer ymgeiswyr - Dod o hyd i adeiladwyr

Bydd yn rhaid i bob adeiladwr gael ei achredu gan TrustMark. Os ydych chi'n adeiladwr cofrestredig TrustMark, gallwch chi adeiladu'ch cartref eich hun. Os nad yw'r adeiladwr yr ydych am ei ddefnyddio / eich bod chi fel adeiladwr wedi'ch cofrestru gyda TrustMark gallant / gallwch gofrestru cyn iddynt / i chi ddechrau gweithio ar eich cartref newydd. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar sut y gallwch chi / eich adeiladwr gofrestru yn fan hyn.

Mae TrustMark yn Gynllun Ansawdd a Gymeradwywyd gan y Llywodraeth sy'n cynnwys gwaith y mae defnyddiwr yn dewis ei wneud yn ei gartref neu o'i gwmpas. Er mwyn gwneud gwaith adeiladu ar gartrefi Hunanadeiladu Cymru, rhaid i adeiladwr fod wedi'i gofrestru gyda TrustMark, oni nodir yn wahanol ym Mhasbort y Plot. Pan fydd defnyddiwr yn dewis busnes sydd wedi'i gofrestru â TrustMark, mae'n cyflogi busnes sydd wedi'i archwilio'n drylwyr i fodloni'r safonau gofynnol, ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth da i gwsmeriaid. I gael mwy o wybodaeth am TrustMark ewch i weld y wefan https://www.trustmark.org.uk.

Oherwydd bod taliadau'n cael eu gwneud fesul cam a'u talu'n ôl-weithredol, bydd unrhyw risg bosibl o golled yn fach iawn. Pan fydd defnyddiwr yn dewis busnes sydd wedi'i gofrestru â TrustMark, mae'n cyflogi busnes sydd wedi'i archwilio'n drylwyr i fodloni'r safonau gofynnol, ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth da i gwsmeriaid. I gael mwy o wybodaeth am TrustMark ewch i weld y wefan https://www.trustmark.org.uk.

Fodd bynnag, os bydd yr amgylchiadau hyn yn digwydd bydd Hunanadeiladu Cymru yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i adeiladwr arall i gwblhau eich cartref newydd.

Ar gyfer adeiladwyr

TrustMark yw Cynllun Ansawdd a Gymeradwywyd gan y Llywodraeth sy'n cynnwys y gwaith y mae defnyddiwr yn dewis cael ei wneud yn ei gartref neu o'i gwmpas. Er mwyn gwneud gwaith adeiladu ar gartrefi Hunanadeiladu Cymru, rhaid i adeiladwr fod wedi'i gofrestru gyda TrustMark. Pan fydd defnyddiwr yn dewis Busnes Cofrestredig â TrustMark, mae'n ymgysylltu â busnes sydd wedi'i archwilio'n drylwyr i fodloni'r safonau gofynnol, ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth da i gwsmeriaid. I gael mwy o wybodaeth am TrustMark ewch i weld y wefan https://www.trustmark.org.uk.

I ddefnyddio'r cynllun, rhaid i ymgeiswyr ddefnyddio adeiladwr sydd wedi'i gofrestru â TrustMark.

Mae angen i chi gofrestru trwy gynllun cofrestredig TrustMark. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar sut i gofrestru trwy ymweld â https://www.TrustMark.org.uk/tradespeople/how-to-join.

Bydd pob gwaith adeiladu yn cael ei asesu yn ôl ei deilyngdod ei hun, os nad yw'r gwaith adeiladu yn mynd yn ôl yr hyn a gynlluniwyd. Mae faint o arian wrth gefn sy'n ofynnol yn dibynnu ar gymhlethdod y prosiect adeiladu. Yn nodweddiadol byddem yn disgwyl i gyllideb wrth gefn contractwr fod yn 5% o gyfanswm y gost adeiladu.

Dyfernir arian cyllido i'r contractwr ar ôl i gerrig milltir penodol gael eu cwblhau trwy gydol y gwaith adeiladu. Rhaid cyflwyno tystiolaeth o'r gwaith a wnaed a'r costau cysylltiedig i Hunanadeiladu Cymru mewn modd amserol.

Bydd ymgeiswyr yn gallu adeiladu ar blot cyn gynted ag y derbynnir eu cais. Byddai'r gwiriadau hyfywedd wedi cael eu cwblhau, byddai’r caniatâd cynllunio wedi cael ei roi a byddai cyfleustodau'n cael eu cysylltu cyn dechrau'r broses ymgeisio. 

Uchafswm tymor y benthyciad hunanadeiladu yw 24 mis. Pan fydd yr eiddo wedi'i gwblhau, bydd yr ymgeisydd yn ad-dalu'r benthyciad yn llawn trwy forgais gan ddarparwr oddi ar y stryd fawr neu werthu eu cartref presennol. Felly byddem yn disgwyl i'r eiddo fod mewn cyflwr addas i gael morgais o fewn 24 mis.

Bydd arian yn cael ei ryddhau ar ôl cwblhau camau trwy gydol y gwaith adeiladu yn unol â ‘Hunanadeiladu Cymru’ wrth iddynt fonitro’r safle yn barhaus. Bydd y camau'n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gostau a sylfeini rhagarweiniol, lefel plât wal, diddos a gwrth-wynt, gyda’r gosodiadau a'r gwaith plastro cyntaf wedi'u cwblhau. Bydd pob cam a chostau cysylltiedig yn cael eu cytuno ymlaen llaw.

Rhaid i bob gwaith adeiladu gydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu cyfredol fel safon ofynnol, mae angen i chi sicrhau bod y cartref yn cyrraedd y lleiafswm targed ar gyfer perfformiad ynni.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn fan hyn.

Bydd pob plot / safle yn cael eu paratoi i'w datblygu gan y 'darparwr plot' (Awdurdod Lleol neu'r Gymdeithas Dai). Bydd hyn yn cynnwys gwiriadau hyfywedd, caniatâd cynllunio amlinellol, neu ganiatâd cynllunio llawn mewn rhai achosion, a chysylltu gwasanaethau / cyfleustodau.

Efallai y bydd rhai darparwyr plotiau yn cyflwyno dyluniadau penodol i'r cynllun, ac efallai y bydd eraill am gyflwyno canllawiau sylfaenol. Os yw'r cwsmer yn hapus â dyluniad penodol y tŷ ac nad nid ydynt yn dymuno gwneud unrhyw newidiadau, nid oes unrhyw ofyniad am bensaer. Os hoffai'r cwsmer wneud newidiadau i'r dyluniadau gwreiddiol megis newid y cynllun mewnol neu gynyddu / lleihau ôl troed y tŷ, byddai'n ofynnol iddynt gyflwyno cynlluniau diwygiedig i'w cymeradwyo ar eu costau eu hunain.

Bydd plotiau â chanllawiau yn ei gwneud yn ofynnol i bensaer gynhyrchu dyluniadau terfynol i'w cyflwyno i'r ALl am ganiatâd cynllunio llawn.

Gellir is-gontractio elfennau o'r gwaith adeiladu (cyfleustodau, ffenestri ac ati) ond byddai'r prif adeiladwr yn parhau i fod yn atebol am yr holl waith a wneir. Byddai'r cyd-gontract tribiwnlys (CGT) sydd wedi'i lofnodi gan yr ymgeisydd a'r adeiladwr yn nodi hyn.