Darganfyddwch yr holl wybodaeth i ymgeiswyr am y cynllun Hunanadeiladu Cymru.
Mae adeiladu eich cartref eich hun yng Nghymru newydd ddod yn haws.

o fuddsoddiad wedi'i dargedu o'r cynllun.
- Cynllun Llywodraeth Cymru i gefnogi hunan-adeiladu
- Dewch o hyd i blotiau gyda chaniatâd cynllunio yn eu lle
- Osgowch dalu elw datblygwr trydydd parti ar adeilad newydd
- Dim ond ar ôl eu cwblhau y mae'r benthyciadau hunan-adeiladu a ddarperir yn daladwy
- Mwy o ddewis gyda dyluniad eich cartref
Trosolwg
Ac yntau wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gyflawni gan dîm Hunanadeiladu Cymru, nod y cynllun yw cael gwared ar y rhwystrau a'r ansicrwydd sy'n atal pobl yng Nghymru rhag adeiladu eu cartrefi eu hunain. Wrth wneud hynny, bydd tir annatblygedig neu a dan-ddefnyddir yn cael ei drawsnewid i fod yn blotiau addas ar gyfer cartrefi hunan-adeiladu ac adeiladu adeiladau pwrpasol newydd.
Gyda Hunanadeiladu Cymru:
- Gallwch chwilio, dod o hyd i a gwneud cais ar-lein am blotiau addas ar gyfer hunan-adeiladu ac ar gyfer adeiladu adeiladau pwrpasol yng Nghymru.
- Dyfernir un plot i chi os bydd eich cais yn llwyddiannus yn dilyn adolygiad gan ddarparwr y plot (awdurdod lleol / cymdeithas dai).
- Byddwch yn cadarnhau'r dyluniad terfynol, y costau a'r adeiladwyr gyda thîm Hunanadeiladu Cymru.
- Byddwch yn darparu blaendal o 25% ar gost y plot. Bydd Banc Datblygu Cymru yn darparu (yn ddarostyngedig i feini prawf cymhwyso) benthyciad datblygu hunan-adeiladu i dalu am falans y plot (75%) a chost lawn adeiladu'r eiddo.
- Byddwch yn goruchwylio'r gwaith o adeiladu eich tŷ ac yn ad-dalu'r benthyciad eiddo ar ôl iddo gael ei gwblhau trwy gyfrwng morgais ad-dalu neu ddulliau eraill sydd ar gael.
Am fanylion pellach ar y broses gweler Sut mae'n gweithio.
Mae ariannu adeilad yn gweithio fel a ganlyn:
- Darperir benthyciadau hunan-adeiladu (yn ddarostyngedig i feini prawf cymhwyso) i geisiadau llwyddiannus am blotiau trwy gyfrwng cynllun Hunanadeiladu Cymru.
- Dim ond blaendal o 25% o gost y plot fydd angen i chi ei ddarparu. Darperir benthyciad hunan-adeiladu i dalu am falans y plot (hyd at 75%) a chostau llawn adeiladu'r eiddo (gan gynnwys ffioedd proffesiynol os yw'n berthnasol).
- Bydd benthyciadau yn daladwy i'r adeiladwr penodedig mewn camau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw yn dilyn gwerthusiad parhaus o’r cynnydd a wneir gyda’r gwaith adeiladu.
- Ad-delir benthyciadau trwy werthu eich eiddo cyfredol neu drwy gyfrwng morgais.
- Dim ond ar daliadau’r benthyciad a wneir ar bob cam y codir llog a ffioedd ar y benthyciadau.
- Uchafswm tymor y benthyciad yw 2 flynedd.
- Ni fydd yn rhaid i chi wneud unrhyw ad-daliadau ar y benthyciad hyd nes bod yr eiddo wedi'i gwblhau a'i forgeisio.
- Ni fydd pecynnau ariannu unigol ar gael ar gyfer datblygu tir preifat trwy Hunanadeiladu Cymru.
- Unwaith y bydd plot wedi cael ei ddyfarnu, rhaid i geisiadau cyllid gael eu cyflwyno i'r tîm Hunan Adeiladu Cymru trwy cynghorydd morgais.
Er mwyn cymryd rhan yn y cynllun rhaid i bob adeiladwr fod wedi'i gofrestru gyda TrustMark.
Gallwch chwilio ar wefan TrustMark am adeiladwr cofrestredig lleol neu gallwch wahodd adeiladwr yr ydych chi'n gwybod amdano i ymuno â Trustmark ar-lein.
Cliciwch yma i chwilio am adeiladwr cofrestredig TrustMark.
Cliciwch yma i gofrestru fel adeiladwr ar gyfer y cynllun TrustMark.
Mae'r meini prawf canlynol yn berthnasol i ymgeiswyr:
- Ni fyddwch yn gallu rhentu na gwerthu'r cartref hunan-adeiladu am o leiaf 5 mlynedd o'r dyddiad cwblhau.
- Rhaid i'r cartref hunan-adeiladu gorffenedig neu'r adeilad pwrpasol fod yn unig eiddo i chi hefyd.
- Byddwch yn gallu gwneud cais am hyd at 5 plot, ond dim ond un plot a gynigir i chi.
- Dim ond adeiladwr sydd wedi'i achredu ar y Cynllun TrustMark y gallwch ei ddefnyddio.
- Os ceir plot yn llwyddiannus trwy gyfrwng y cynllun, ni allwch wneud cais am blot arall yn y dyfodol.
- Ni chaniateir i chi feddiannu'r eiddo hyd nes bod y benthyciad Hunanadeiladu Cymru wedi'i ad-dalu.
Blaenoriaethau plot
Bydd plotiau safle ar gael i unrhyw un wneud cais amdanynt. Mae Hunanadeiladu Cymru wedi'i gynllunio i weddu i gynifer o anghenion â phosib. Lle mae sawl cais am blotiau, bydd pob cais yn cael ei asesu a'i sgorio ar sail blaenoriaethau penodol a osodir gan awdurdodau lleol / cymdeithas dai. Gellir gweld y rhain ar dudalennau pasbort plot unigol. Bydd effeithlonrwydd ynni yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer pob plot.
Sylwch y gallwch barhau i fynd ati i wneud cais am blot hyd yn oed os nad ydych yn cwrdd â'r holl flaenoriaethau a osodwyd ar gyfer plot.
I wneud cais ar-lein am y cynllun rhaid i chi:
- Chwilio a dewis safle o'r dudalen Dod o Hyd i Blot.
- Ddewis eich plot (iau) o'r safle trwy gyfrwng y tudalennau pasbort y plot (5 ar y mwyaf)
- Ar ôl i chi gadarnhau eich dewisiadau plot, dewiswch eich dyluniad (au) gan ddefnyddio'r canllaw dylunio i gyfeirio ato (os yw'n berthnasol).
- Rhowch eich plotiau yn nhrefn blaenoriaeth.
- Llenwch y ffurflen gais - rhaid gwneud pob cais ar-lein trwy wefan Hunanadeiladu Cymru.
Mae Cofrestr o Gynghorwyr Annibynnol ar gael i'ch helpu gyda chyngor ar gostiadau a deunyddiau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r cynllun neu'ch cais ewch i weld ein rhan berthnasol ar help neu anfonwch ymholiad atom trwy gyfrwng y ffurflen cysylltu â ni.
Ydych chi'n barod i ddechrau?
Chwiliwch yn ôl lleoliad neu god post i ddod o hyd i'ch plot.