Diweddariad i gwsmeriaid: mae effaith COVID-19 wedi effeithio ar argaeledd plotiau ar gyfer y cynllun ar hyn o bryd, ond rydym yn gweithio'n agos gyda darparwyr plotiau er mwyn cyflwyno mwy o dir addas. Darllen mwy.
 

Telerau & amodau

1. Gweithredydd y wefan

Gweithredir y wefan hon gan Fanc Datblygu Cymru ccc ac mae ei swyddfa gofrestredig yn Uned J, Pentref Busnes Iâl, Ellice Way, Wrecsam, LL13 7YL

2. Trwydded

2.1 Mae Banc Datblygu Cymru yn rhoi trwydded anghyfyngedig i chi ddefnyddio'r wefan hon yn unol â'r telerau a'r amodau a ganlyn. Gall Banc Datblygu Cymruderfynu'r drwydded hon ar unrhyw adeg heb rybudd.

3. Deunyddiau ar y safle

3.1 Mae'r wefan hon yn cynnwys deunydd, sy'n eiddo i, neu sydd wedi'i drwyddedu i, Banc Datblygu Cymru. Mae'r deunydd hwn yn cynnwys dyluniad, cynllun, edrychiad, ymddangosiad a graffeg, ond nid yw'n gyfyngedig iddo. Fe'i diogelir gan gyfreithiau eiddo deallusol, gan gynnwys hawlfraint, ond nid yw'n gyfyngedig iddo.

3.2 Mae'r holl nodau masnach a atgynhyrchir ar y wefan hon, nad ydynt yn eiddo i, neu sydd wedi'u trwyddedu i Banc Datblygu Cymru, yn cael eu cydnabod ar y wefan.

3.3 Gallwch weld, defnyddio, lawrlwytho a storio'r deunydd ar y wefan hon at ddefnydd personol ac ymchwil yn unig. Ni chaniateir defnydd masnachol. Gwaherddir ail-ddosbarthu, ail-gyhoeddi, neu fel arall roi deunydd ar gael ar y Wefan hon i drydydd partïon, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Banc Datblygu Cymru. I wneud cais am ganiatâd o'r fath, cysylltwch â Banc Datblygu Cymru ar 029 2033 8168.

3.4 Gallai defnydd anawdurdodedig o'r Wefan hon arwain at hawliad am iawndal a / neu fod yn drosedd.

4. Cywirdeb Gwybodaeth

4.1 Rhoddir y wybodaeth sydd ar y Wefan hon yn ddidwyll ac er gwybodaeth gyffredinol ac er diddordeb yn unig. Mae'n ddarostyngedig i newid heb rybudd. Nid yw Banc Datblygu Cymru yn gyfrifol am unrhyw anghywirdebau (ac eithrio fel y nodir yng nghymal 6.3) ac nid yw'n gwneud unrhyw gynrychiolaeth ac nid yw'n rhoi unrhyw warant am ei chywirdeb.

4.2 Ni ddylid dibynnu ar y wybodaeth ar y wefan hon ac nid yw'n ffurfio unrhyw fath o gyngor nac argymhelliad. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cadarnhau nad ydych wedi dibynnu ar unrhyw wybodaeth o'r fath. Eich cyfrifoldeb chi yn unig ac yn gyfan gwbl yw unrhyw drefniadau a wneir rhyngoch chi ac unrhyw drydydd parti a enwir neu a gyfeirir atynt ar y wefan.

4.3 Ni fwriedir i unrhyw beth ar y wefan hon gael ei ddehongli fel cynnig i ymrwymo i berthynas gytundebol.

5. Dolenni

5.1 Mae'r wefan hon yn cynnwys dolenni at wefannau eraill. Nid yw Banc Datblygu Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb na rhwymedigaeth am gynnwys gwefannau eraill, nad ydynt dan reolaeth lem Banc Datblygu Cymru. Ni fwriedir i unrhyw ddolen fod, ac ni ddylai gael ei ddehongli fel, ardystiad o unrhyw fath gan Cyllid Cymru o'r wefan arall honno.

6. Atebolrwydd

6.1 Nid yw Banc Datblygu Cymru yn gwarantu y bydd defnyddio'r wefan hon yn gydnaws â phob caledwedd a meddalwedd a fydd yn cael eu defnyddio efallai gan y sawl sy'n ymweld â'r safle.

6.2 Ac eithrio fel y nodir yng nghymal 6.3, ni fydd Banc Datblygu Cymru o dan unrhyw rwymedigaeth i chi o gwbl, boed hynny mewn contract / cytundeb, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, adferiad neu fel arall am unrhyw anaf, marwolaeth, difrod neu golled uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol (ac mae'r tri term hwn yn cynnwys, heb gyfyngiad, colled economaidd pur, colli elw, colli busnes, dileu ewyllys da a cholled debyg) sut bynnag y'i hachosir ac sy'n deillio o ddefnyddio'r wefan neu mewn cysylltiad â'r defnydd a wneir o'r wefan neu ddefnyddio, cael mynediad at, lawrlwytho neu ddibynnu ar unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau eraill sydd wedi'u cynnwys ar y wefan hon, gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, o ganlyniad i firws cyfrifiadurol.

6.3 Nid yw'r telerau a'r amodau hyn yn eithrio ei atebolrwydd (os o gwbl) i chi am anaf neu farwolaeth bersonol sy'n deillio o Banc Datblygu Cymru, am dwyll neu am unrhyw fater a fyddai'n anghyfreithlon i Banc Datblygu Cymru ei adael allan neu geisio ei adael allan o ran atebolrwydd.

7. Awdurdodaeth a derbyn y telerau a'r amodau hyn

7.1 Caiff y wefan hon ei rheoli a'i gweithredu gan Banc Datblygu Cymru ccc o'i swyddfeydd yng Nghymru. Rhaid i ffurfiad, bodolaeth, adeiladu, perfformiad, dilysrwydd ymhob agwedd o'r telerau a'r amodau hyn neu unrhyw derm o'r telerau a'r amodau hyn neu unrhyw anghydfod mewn perthynas â'r deunyddiau a gynhwysir yn y Wefan hon gael ei lywodraethu gan gyfraith Lloegr fel y'i cymhwysir yng Nghymru. Bydd gan y llysoedd yng Nghymru a Lloegr yr awdurdodaeth unigryw i setlo unrhyw anghydfodau a all godi o neu mewn cysylltiad â'r telerau a'r amodau hyn neu'r defnydd o'r Wefan.

7.2 Mae eich defnydd parhaus o'r Wefan hon yn nodi eich bod yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.