Mae cynllun Hunanadeiladu Cymru wedi ehangu i ddarparu ar gyfer ymgeiswyr sydd naill ai’n berchen ar eu tir eu hunain, neu sydd wedi dod o hyd i dir ar gael i adeiladu arno. Darganfyddwch fwy yma

Polisi preifatrwydd

Pryd bynnag y byddwch yn darparu data personol i Hunan-Adeiladu Cymru, neu pryd bynnag y byddwn yn casglu data personol amdanoch chi, dim ond yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd hwn y byddwn yn ei ddefnyddio. Darllenwch hwn yn ofalus.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i Hunan-adeiladu Cymru, is-gwmni i Fanc Datblygu Cymru. Pryd bynnag y defnyddir y termau 'HAC, 'ni', 'ninnau', neu 'ein' yn yr hysbysiad hwn, mae'n golygu Hunan-adeiladu Cymru.

Am ein rhestr lawn o ddogfennau preifatrwydd cliciwch yma.

Dysgwch fwy am ein strwythur llywodraethu ar ein tudalen llywodraethu.

Ein hegwyddorion

Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifri ac wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol. Mae hyn yn golygu:

Dim ond eich data personol sy'n ein helpu i'ch helpu chi y byddwn yn gofyn i chi ei roi i ni.

Byddwn yn cadw eich data personol yn ddiogel ac yn gyfrifol. Rydym yn defnyddio mesurau diogelwch gan gynnwys amgryptio electronig, i atal mynediad heb awdurdod i'ch data personol.

Dim ond gyda chwmnïau eraill yng Ngrŵp BDC, gyda chyflenwyr sy'n cyflawni gwasanaethau ar ein rhan, ac fel y nodir fel arall yn yr hysbysiad hwn, y byddwn yn rhannu eich data personol.

Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data personol.

Pwy ydym ni

Mae'r adran hon yn rhoi enw cyfreithiol y cwmni sy'n dal eich data personol i chi - a elwir yn 'endid cyfreithiol' - ac yn dweud wrthych sut allwch gysylltu â ni.

Banc Datblygu Cymru Cyf (Development Bank of Wales Plc) yw cwmni daliannol Grŵp sy'n masnachu fel 'Banc Datblygu Cymru'. Mae'r Grŵp yn cynnwys nifer o is-gwmnïau sydd wedi'u cofrestru gydag enwau gan gynnwys y llythrennau cyntaf BDC/DBW.

Mae Grŵp Banc Datblygu Cymru Cyf yn gwmni cyllid datblygu sy'n eiddo llwyr i Weinidogion Cymru; nid yw wedi'i awdurdodi na'i reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (ARhD) na'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA).

Mae gan Grŵp Banc Datblygu Cymru Cyf dri is-gwmni sydd wedi'u hawdurdodi a'u rheoleiddio gan yr AYA. Sylwch nad yw Banc Datblygu Cymru Cyf nac unrhyw un o'i is-gwmnïau yn sefydliadau bancio nac yn gweithredu fel y cyfryw. Mae hyn yn golygu nad yw'r un o endidau'r grŵp yn gallu derbyn blaendaliadau gan y cyhoedd. 

Gweinyddir Hunan-Adeiladu Cymru gan Buddsoddiadau BDC (11) Cyf.; / DBW Investments (11) Ltd., is-gwmni i Fanc Datblygu Cymru Cyf.

I grynhoi, mae Banc Datblygu Cymru yn cynnwys cymysgedd o gwmnïau, a sefydlwyd trwy wahanol endidau cyfreithiol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa rai o'r rhain sydd gennych berthynas â nhw pan fyddwch yn prynu cynnyrch neu wasanaeth gyda ni.

Pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich data personol

Byddwn yn casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi am y rhesymau canlynol:

1.     Mewn cysylltiad â'n cynhyrchion benthyciadau.

2.     Oherwydd eich bod am i ni gysylltu â chi mewn ymateb i ymholiad penodol.

3.     Er mwyn eich hysbysu am ein cynnyrch a'n gwasanaethau.

4.     Mewn cysylltiad â'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau rydych chi'n eu darparu i ni.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy gyfryngau fel post, ffôn, e-bost, negeseuon testun neu ddulliau cyfathrebu digidol eraill. Efallai y byddwn yn anfon cyfathrebiadau at ddibenion:

Cynnal rheolaeth barhaus o fenthyciadau datblygu hunan-adeiladu rydyn ni wedi'u darparu i chi.

Cyflawni ein rhwymedigaethau rheoleiddiol.

Rhoi gwybod i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau, gan gynnwys marchnata, os gwnaethoch chi ddewis hyn ar eich cais. Os gwnaethoch chi ddewis ar y ffurflenni cais, gallwch chi ddewis peidio â gwneud hyn ar unrhyw adeg drwy e-bostio [email protected] neu glicio'r opsiwn 'dad-danysgrifio' yn unrhyw un o'n negeseuon e-bost marchnata.

Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth mewn cysylltiad â phob un o'r dibenion hyn i'w gweld isod. Mae'r wefan hon hefyd yn defnyddio cwcis, a gellir dod o hyd i fwy o fanylion amdanynt yn ein polisi cwcis.

Gweler hefyd polisi cwcis llyw.cymru.

  1. Defnyddio eich data personol mewn cysylltiad â'n benthyciadau

Pam mae angen i Hunan-Adeiladu Cymru ddefnyddio fy nata personol?

Os byddwch yn gwneud cais am fenthyciad i Hunan-Adeiladu Cymru, bydd angen i chi roi gwybodaeth amdanoch chi eich hun i ni. Mae hyn er mwyn i ni allu penderfynu a ydych yn gymwys i gael benthyciad. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn parhau i ddefnyddio eich gwybodaeth fel rhan o'n rheolaeth barhaus o'n benthyciad i chi.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio data personol amdanoch chi a ddarperir gan eraill i lywio ein penderfyniadau ynghylch benthyciadau. Er enghraifft, os oes gennych gysylltiad ariannol ag ymgeisydd, yna bydd angen i ni gasglu data personol amdanoch chi'ch dau.

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei darparu i Hunan-Adeiladu Cymru?

Bydd yr union wybodaeth sydd ei hangen arnom wedi'i nodi ar y ffurflenni cais eu hunain. Bydd yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol amdanoch chi, fel eich enw, cyfeiriad a dyddiad geni. Byddwn hefyd yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol.

Beth mae Hunan-Adeiladu Cymru yn ei wneud gyda fy nata personol?

Pan fyddwch chi'n darparu eich gwybodaeth i ni neu pan gaiff ei darparu gan eraill fel rhan o gais, byddwn ni'n ei defnyddio er mwyn asesu'r cais ac i wneud penderfyniad ynghylch a ddylid darparu'r benthyciad ai peidio. Yna byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth fel rhan o'n rheolaeth barhaus o'r benthyciad, datblygiad eich eiddo ac i hwyluso eich trafodiad eiddo. Gall ein defnydd o'ch gwybodaeth gynnwys:

Gwneud chwiliadau amdanoch chi mewn asiantaethau cyfeirio credyd. Bydd yr asiantaethau hyn yn rhoi gwybodaeth credyd i ni yn ogystal â gwybodaeth o'r gofrestr etholiadol a byddant yn cofnodi manylion unrhyw chwiliadau p'un a yw eich cais yn mynd rhagddo ai peidio. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae asiantaethau cyfeirio credyd ac asiantaethau atal twyll yn defnyddio eich gwybodaeth drwy ddarllen yr Hysbysiad Gwybodaeth Asiantaethau Cyfeirio Credyd (“CRAIN”). Mae'r ddogfen hon yn disgrifio sut mae'r tair prif asiantaeth cyfeirio credyd yn defnyddio ac yn rhannu data personol. Gellir cael mynediad at y CRAIN yma.

Chwilio am gredyd, ar gyfer olrhain dyledion a rheolaeth barhaus unrhyw gyllid y gallwn ei ddarparu i chi.

Sgorio credyd, i benderfynu a ydych chi'n addas ar gyfer y cynnyrch neu'r gwasanaeth perthnasol.

Canfod ac atal twyll. Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag asiantaethau atal twyll fel yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol, at y diben hwn.

Rhannu eich gwybodaeth gydag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a/neu berchnogion tir preifat er mwyn neilltuo darn o dir a ddefnyddir ar gyfer datblygu eich eiddo. Gall hyn fod yn unol â'ch gofynion penodol a'u gofynion penodol hwy.

Rhannu eich gwybodaeth gyda chyfreithwyr mewn perthynas â phrynu tir yn ogystal â chyflawni ffurfioldebau cyfreithiol eraill mewn cysylltiad â'ch trafodiad eiddo.

Rhannu eich gwybodaeth gydag adeiladwyr er mwyn datblygu eich eiddo ar y darn o dir a gafwyd. Gall hyn fod yn unol â'ch gofynion penodol.

Defnyddio eich gwybodaeth yn unol â Thelerau ac Amodau'r benthyciad.

Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy nata personol?

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich data personol. Pan fyddwch chi'n gwneud cais am fenthyciad gyda ni, gall y seiliau cyfreithiol canlynol fod yn berthnasol:

Perfformiad Contract

Mae eich cais yn gais i ni ymrwymo i gontract gyda chi. Caniateir i ni ddefnyddio eich data personol lle mae'n angenrheidiol i ni wneud hynny er mwyn cyflawni camau cyn-gontract, i ymrwymo i gontract gyda chi, ac ar gyfer cyflawni contract sydd gennym ar waith.

Rhwymedigaeth Gyfreithiol

Caniateir i ni ddefnyddio eich data personol lle bo angen er mwyn i ni gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol.

Rydym yn ddarostyngedig i amryw o rwymedigaethau cyfreithiol pryd bynnag y byddwn yn ystyried ceisiadau am fenthyciad, gan gynnwys deddfwriaeth gwrth-wyngalchu arian a gofynion yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Buddiannau Cyfreithlon

Caniateir i ni ddefnyddio eich data personol lle bo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, ar yr amod nad yw ein buddiannau ni yn cael eu gorbwyso gan eich buddiannau eich hun.

Lle rydych chi wedi gwneud cais am fenthyciad gyda ni, neu os ydych chi'n gwsmer presennol, rydym yn prosesu eich data personol am y rhesymau canlynol o dan ein buddiannau cyfreithlon, er mwyn:

Cynnal gwiriadau priodol ar gwsmeriaid posibl,

Sicrhau ad-daliad benthyciadau i ni.

Asesu cydymffurfiaeth â pholisïau a thelerau ac amodau'r cynllun,

Rheoli datblygiad eich eiddo a'ch trafodiad eiddo.

Cynnal dilysu priodol o ddata eiddo sy’n cael ei gadw gennym ni (sydd wedi'i ddarparu gennych chi) gyda data eiddo sy’n cael ei gadw gan Gofrestrfa Tir EM.

Ymchwilio i ymholiadau a chwynion a'u rheoli, gan gynnwys dadansoddi ymholiadau a chwynion at ddibenion atal methiannau ac unioni effeithiau negyddol ar gwsmeriaid.

Ystyried anghenion lles cwsmeriaid, gan gynnwys darparu unrhyw addasiadau, cefnogaeth neu amddiffyniad y mae angen iddynt eu rhoi ar waith.

Atal ac ymchwilio i dwyll, gwyngalchu arian a chamymddygiad ariannol arall.

I ddatblygu a gwella ein cynnyrch a'n gwasanaethau, gan gynnwys cynnal arolygon ac ymchwil cwsmeriaid.

Sicrhau parhad busnes, adfer ar ôl trychineb a diogelwch rhwydwaith a gwybodaeth.

Sail Gyfreithiol ar gyfer Prosesu Data Categori Arbennig

Mae cyfreithiau Diogelu Data yn trin rhai mathau o ddata personol fel rhai sy'n arbennig o sensitif. Gelwir y wybodaeth hon yn 'Ddata Categori Arbennig'. Ni fyddwn yn casglu na defnyddio'r mathau hyn o ddata heb eich caniatâd oni bai bod y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Os gwnawn hynny, dim ond o dan un o'r seiliau cyfreithiol canlynol y bydd:

Am resymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd; neu

Mae gennym eich caniatâd penodol i wneud hynny; neu

I sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Am ba hyd mae Hunan-Adeiladu Cymru yn cadw fy nata personol?

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am o leiaf hyd eich contract gyda ni, ac wedi hynny am gyfnod o 12 mlynedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gennym gofnod llawn o'r contract rhyngom, os bydd unrhyw anghydfod ynghylch y contract.

Os yw eich cais yn aflwyddiannus neu'n cael ei dynnu'n ôl, byddwn yn cadw ac yn dinistrio eich data personol yn unol â'n hamserlen cadw data.

Efallai y byddwn yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod hirach lle bo angen hynny i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol, i arfer hawliau cyfreithiol, i gydymffurfio â Thelerau ac Amodau'r gronfa neu i amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Mae gennym gyfnod cadw o 2 flynedd mewn perthynas â gohebiaeth e-bost. Os bydd angen i ni gadw eich e-byst am gyfnod hirach na'r hyn a nodwyd, byddwn yn gwneud hynny naill ai i gadw at y gyfraith, os oes hawliadau neu gwynion presennol a fydd yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth, neu am resymau rheoleiddiol neu dechnegol.

Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn darparu fy nata personol i Hunan-Adeiladu Cymru?

Er mwyn i ni ystyried eich cais, mae yna wybodaeth benodol y mae'n rhaid i chi ei darparu i ni. Os na fyddwch yn darparu'r holl fanylion yr ydym yn gofyn amdanynt ar y ffurflenni cais, ni fyddwn yn gallu asesu eich cais, a gallai arwain at na fyddwch yn gallu cael mynediad at ein buddsoddiadau.

2. Defnyddio eich data personol i ymateb i'ch ymholiad

Pam mae angen i Hunan-Adeiladu Cymru ddefnyddio fy nata personol?

Os byddwch yn cysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am fenthyciad, neu os byddwch yn gwneud ymholiad cyffredinol, bydd angen i ni brosesu eich data personol er mwyn ymateb i chi.

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei darparu i Hunan-Adeiladu Cymru?

Bydd hynny'n dibynnu ar natur eich ymholiad. Mae'r dudalen Cysylltu â Ni ar ein gwefan yn nodi'r wybodaeth leiaf y bydd ei hangen arnom amdanoch chi er mwyn ymateb i'ch ymholiad. Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy anfon eich ymholiad i'r cyfeiriad e-bost canlynol: [email protected]. 

Fel rhan o'r gweithgareddau a restrir uchod, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd partïon megis awdurdodau lleol, adeiladwyr, cynghorwyr ariannol annibynnol, penseiri, priswyr, cynghorwyr morgeisi, datblygwyr, landlordiaid, perchnogion tir preifat, cyflogwyr cymdeithasau tai a chyfreithwyr.

Beth mae Hunan-Adeiladu Cymru yn ei wneud gyda fy nata personol?

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i ymateb i'ch ymholiad ac, os ydych yn cytuno, i gysylltu â chi eto i roi gwybodaeth i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau (gweler rhan 3 isod).

Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy nata personol?

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich data personol.

Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am ein cynnyrch neu ein gwasanaethau, credwn fod gennym ni fuddiant cyfreithlon mewn gallu ymateb yn llawn i'ch ymholiad. Caniateir i ni ddefnyddio'ch data personol lle bo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, ar yr amod nad yw ein buddiannau ni yn cael eu diystyru gan eich buddiannau eich hun. Yn yr achos hwn, credwn fod defnyddio'ch data personol i ymateb i'ch ymholiad er eich budd chi a'n budd ni.

Am ba hyd mae Hunan-Adeiladu Cymru yn cadw fy nata personol?

Byddwn yn cadw eich data personol am yr amser y mae'n ei gymryd i ddelio â'ch ymholiad. Gall hyn gynnwys unrhyw ohebiaeth sydd gennych â ni drwy e-bost neu drwy'r ffurflen 'Cysylltwch â Ni' ar ein gwefan.

Fel arfer, byddwn yn dileu eich data personol ar ôl 24 mis, oni bai eich bod am i ni gadw eich manylion cyswllt i'ch hysbysu am ein cynnyrch a'n gwasanaethau (gweler adran 3, isod).

Os bydd angen i ni gadw eich data personol am gyfnod hirach nag a nodwyd, byddwn yn gwneud hynny naill ai i gadw at y gyfraith, os oes hawliadau neu gwynion presennol a fydd yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth, neu am resymau rheoleiddiol neu dechnegol.

Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn darparu fy nata i Hunan-adeiladu Cymru?

Nid oes angen i chi roi eich data personol i ni. Fodd bynnag, os na fyddwch yn darparu digon o wybodaeth, efallai na fyddwn yn gallu ymateb yn gywir i'ch ymholiad. Os byddwch yn cysylltu â ni drwy ein gwefan, gofynnwn i chi ddarparu gwybodaeth orfodol benodol fel y gallwn ddelio â'ch ymholiad.

  1. Defnyddio eich data personol i roi gwybod i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau

Pam mae angen i Hunan-Adeiladu Cymru ddefnyddio fy nata personol?

Os hoffech gael eich hysbysu am ein hamrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau buddsoddi, byddwn yn defnyddio eich data personol i anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol atoch (megis negeseuon e-bost). Dim ond os ydych wedi cytuno i ni ddefnyddio eich data personol at y diben hwn y byddwn yn gwneud hyn.

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei darparu i Hunan-Adeiladu Cymru?

Gallwch roi eich enw a'ch manylion cyswllt i ni drwy ein tudalen cysylltu â ni, ffurflen gais am blot, ffurflen gofrestru neu ffurflen mynegiant diddordeb, sydd i'w chael ar y wefan hon.

Beth mae Hunan-Adeiladu Cymru yn ei wneud gyda fy nata personol?

Byddwn yn defnyddio eich manylion cyswllt i roi gwybodaeth i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau.

Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy nata personol?

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich data personol. Pan fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion marchnata, mae'r seiliau cyfreithiol canlynol yn berthnasol:

Credwn fod gennym fuddiant cyfreithlon mewn anfon gwybodaeth atoch am ein cynnyrch a'n gwasanaethau. Caniateir i ni ddefnyddio eich data personol lle bo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, ar yr amod nad yw ein buddiannau ni yn cael eu diystyru gan eich buddiannau eich hun. Yn yr achos hwn, credwn fod dweud wrthych am ein cynnyrch a'n gwasanaethau er eich budd chi a'n budd ni. Byddwn bob amser yn rhoi'r cyfle i chi optio allan o dderbyn y cyfathrebiadau hyn.

Mewn rhai amgylchiadau byddwn yn gofyn am eich caniatâd cyn i ni anfon gwybodaeth atoch am ein cynnyrch a'n gwasanaethau.

Am ba hyd mae Hunan-Adeiladu Cymru yn cadw fy nata personol?

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth nes i chi ddewis peidio â derbyn cyfathrebiadau marchnata gennym ni mwyach.

Mae gennym gyfnod cadw o 2 flynedd mewn perthynas â gohebiaeth e-bost. Os bydd angen i ni gadw eich e-byst am gyfnod hirach na'r hyn a nodwyd, byddwn yn gwneud hynny naill ai i gadw at y gyfraith, os oes hawliadau neu gwynion presennol a fydd yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth, neu am resymau rheoleiddiol neu dechnegol.

Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn darparu fy nata personol i Hunan-Adeiladu Cymru?

Os nad ydych chi eisiau derbyn gwybodaeth gennym ni, rhowch wybod i ni. Mae gennych chi'r hawl i optio allan unrhyw bryd drwy anfon e-bost atom ni yn [email protected] neu glicio'r opsiwn 'dad-danysgrifio' yn unrhyw un o'n negeseuon e-bost marchnata.

  1. Defnyddio eich data personol mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarparwch chi i Hunan-Adeiladu Cymru

Pam mae angen i Hunan-Adeiladu Cymru ddefnyddio fy nata personol?

Os ydych chi'n darparu gwasanaethau i Hunan-Adeiladu Cymru, bydd angen i chi roi gwybodaeth amdanoch chi i ni. Mae hyn er mwyn i ni allu penderfynu a ydych chi'n berson cywir i ddarparu'r gwasanaeth gofynnol. Byddwn yn parhau i ddefnyddio eich gwybodaeth fel rhan o'n rheolaeth barhaus o'r gwasanaeth a ddarparwch chi.

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei darparu i Hunan-Adeiladu Cymru?

Mae angen gwybodaeth arnom fel eich enw llawn, cyfeiriad, a manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.

Beth mae Hunan-Adeiladu Cymru yn ei wneud gyda fy nata personol?

Pan fyddwch chi'n rhoi eich gwybodaeth i ni, byddwn ni'n ei defnyddio i asesu eich addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth. Yna byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth i reoli ein perthynas barhaus tra byddwch chi'n darparu'r gwasanaeth a byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth honno gyda thrydydd partïon yn ôl yr angen.

Rydych yn cydnabod ac yn cytuno y gellir prosesu eich data personol y tu allan i'r AEE. Byddwn yn cymryd rhagofalon (yn unol â chanllawiau perthnasol gan gyrff rheoleiddio) i sicrhau y bydd unrhyw drosglwyddiad o'ch data y tu allan i'r AEE yn destun mesurau diogelwch sy'n amddiffyn eich hawliau preifatrwydd, a bydd eich data yn cael ei gadw'n ddiogel bob amser.

Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy nata personol?

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich data personol. Pan fyddwch chi'n gwneud cais i ddarparu gwasanaeth i ni, gall y seiliau cyfreithiol canlynol fod yn berthnasol:

Lle darperir eich gwybodaeth i ni mewn cysylltiad â gwasanaeth a ddarparwch i ni. Caniateir i ni ddefnyddio eich data personol ar gyfer cyflawni'r contract hwnnw.

Caniateir i ni ddefnyddio eich data personol lle bo'n angenrheidiol i ni gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol.

Credwn fod cynnal gwiriadau priodol ar ddarpar ddarparwyr gwasanaethau ac yna monitro perfformiad darparwyr gwasanaethau yn ystod mae tymor ein perthynas, er ein budd cyfreithlon fel benthyciwr cyfrifol. Caniateir i ni ddefnyddio eich data personol lle bo angen hynny ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, ar yr amod nad yw ein buddiannau ni yn cael eu diystyru gan eich buddiannau eich hun. 

Am ba hyd mae Hunan-Adeiladu Cymru yn cadw fy nata personol?

Byddwn yn cadw eich data personol am o leiaf hyd eich contract gyda ni, ac wedi hynny am gyfnod o 7 mlynedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gennym gofnod llawn o'r contract rhyngom, os bydd unrhyw anghydfod ynghylch y contract.

Efallai y byddwn yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod hirach lle bo angen hynny i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol, i arfer hawliau cyfreithiol neu i amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Mae gennym gyfnod cadw o 2 flynedd mewn perthynas â gohebiaeth e-bost. Os bydd angen i ni gadw eich e-byst am gyfnod hirach na'r hyn a nodwyd, byddwn yn gwneud hynny naill ai i gadw at y gyfraith, os oes hawliadau neu gwynion presennol a fydd yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth, neu am resymau rheoleiddiol neu dechnegol.

Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn darparu fy nata personol i Hunan-Adeiladu Cymru?

Nid oes rhaid i chi roi unrhyw wybodaeth i ni. Fodd bynnag, os na fyddwch yn darparu'r manylion yr ydym yn gofyn amdanynt, ni fyddwn yn gallu defnyddio eich gwasanaethau.

Eich Hawliau Diogelu Data

Bydd y data personol a roddwch i ni yn cael ei gadw yn unol â'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Mae hyn yn cynnwys Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU a Deddf Diogelu Data 2018. Mae'r cyfreithiau hyn yn cynnwys hawliau penodol i chi, gan gynnwys:

Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o’ch data personol (gelwir hyn hefyd yn gais mynediad gan bwnc).

Yr hawl i gywiro – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth rydych chi'n credu sy'n anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth rydych chi'n credu sy'n anghyflawn.

Yr hawl i ddileu – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol, o dan rai amodau.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich data personol, o dan rai amodau.

Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu ein prosesu o’ch data personol, o dan rai amodau.

Yr hawl i gludadwyedd data – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data rydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol atoch chi, o dan rai amodau.

Yr hawl i gwyno i'r rheoleiddiwr - Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, os ydych chi'n anfodlon â sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio. Gellir cysylltu â'r ICO yn www.ico.org.uk. 

Eich hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd – Mae gennych hawliau i beidio â bod yn destun penderfyniad sy'n seiliedig yn unig ar brosesu awtomataidd os yw'r penderfyniad yn effeithio ar eich hawliau cyfreithiol neu faterion eraill sydd yr un mor bwysig. Mae gennych hefyd hawliau i ddeall y rhesymau y tu ôl i benderfyniadau a wneir amdanoch chi trwy wneud penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio.

Eich hawliau a sut i gysylltu â ni

Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â sut rydym yn defnyddio eich data personol, neu os hoffech arfer eich hawliau diogelu data, gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data.

Ymholiadau diogelu data a cheisiadau am hawliau

Am ymholiadau cyffredinol am eich data personol, neu i arfer eich hawliau (gan gynnwys ceisiadau mynediad), cysylltwch â ni yn:

E-bost: [email protected]

Gallwch gysylltu â ni er mwyn:

Gofyn am fynediad at eich data personol (cais mynediad gan bwnc).

Gofynnwch i ni gywiro neu ddiweddaru eich data personol.

Gofyn am ddileu neu gyfyngu ar brosesu.

Gwrthwynebu sut rydym yn defnyddio eich data.

Gofynnwch sut mae eich data personol yn cael ei drin.

Byddwn yn ymateb yn unol â deddfwriaeth diogelu data berthnasol.

Gwneud cwyn

Os ydych chi'n anfodlon â sut rydym ni wedi trin eich data personol, mae gennych chi'r hawl i wneud cwyn.

Cysylltu â'n Tîm Cwynion

Ein nod yw darparu gwasanaeth o safon uchel a chymryd cwynion o ddifri. Gallwch godi cwyn gyda ni yn:

E-bost: [email protected]

Byddwn yn cydnabod eich cwyn yn brydlon ac yn ymchwilio iddi'n deg ac yn ddiduedd. Lle bo'n briodol, bydd eich cwyn yn cael ei hadolygu ar y cyd â'n Swyddog Diogelu Data.

Cysylltu â'r rheoleiddiwr

Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i reoleiddiwr diogelu data’r DU ar unrhyw adeg:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)

Gwefan: www.ico.org.uk

Ffôn: 0303 123 1113

Nid oes angen i chi godi eich cwyn gyda ni cyn cysylltu â'r ICO.

Ni fydd gwneud cwyn yn effeithio ar eich hawliau cyfreithiol.

Diweddarwyd Diwethaf: Mehefin 2026