Mae cynllun Hunanadeiladu Cymru wedi ehangu i ddarparu ar gyfer ymgeiswyr sydd naill ai’n berchen ar eu tir eu hunain, neu sydd wedi dod o hyd i dir ar gael i adeiladu arno. Darganfyddwch fwy yma

Safonau gwasanaeth

Safonau gwasanaeth

Rydym .yn cymryd cyfrifoldeb am ein gweithgareddau ac rydym yn ymrwymedig i gyflawni'r safon uchaf o ofal cwsmeriaid. Rydym yn gwneud pob ymdrech i gynnal ein safonau gwasanaeth trwy ddarparu gwasanaeth sy'n effeithlon, yn ddibynadwy, yn bersonol, yn broffesiynol ac yn dryloyw

Gwneud penderfyniadau

Nod ein proses ymgeisio yw sicrhau bod buddsoddiadau'n cael eu rhoi gyda busnesau hyfyw. Ein prif bryder yw gwneud buddsoddiadau gwasanaethadwy a doeth. Er bod pob cynnig yn cael sylw gofalus, ni allwn ymrwymo i gytuno i bob cais.

Os oes gennych gwyn am benderfyniad buddsoddi masnachol, cysylltu â ni os gwelwch yn dda. Bydd ein rheolwyr cronfa yn hapus i drafod unrhyw agwedd ar eu proses o wneud penderfyniad. Os gwrthodir cais, dim ond gwybodaeth ategol ychwanegol sy'n debygol o arwain at wrthdroi'r penderfyniad hwnnw.

Ymdrin â Cheisiadau

Os oes gennych gwyn am y ffordd y cafodd cais ei drin, cysylltu â ni os gwelwch yn dda. Byddwn yn hapus i ymchwilio i unrhyw broblemau a mynd i'r afael â hwy.

Cwynion cyffredinol

Am unrhyw fath arall o gwynion y tu allan i benderfyniad cais, defnyddiwch ein tudalen cysylltu â ni os gwelwch yn dda.

Cysylltu â ni

Gellir cysylltu â ni rhwng 9yb a 5yp, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes angen i chi siarad â ni y tu allan i'r oriau hyn, gallwch anfon e-bost atom neu adael neges ar ein ffôn ateb a byddwn yn eich ffonio'n ôl y diwrnod gwaith nesaf.

Polisi preifatrwydd

O dan y gyfraith diogelu data mae'n rhaid i ni fod â sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio'ch gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni am ragor o wybodaeth am ein cynnyrch neu ein gwasanaethau, credwn fod gennym ddiddordeb cyfreithlon o ran gallu ymateb yn llawn i'ch ymholiad. Dim ond i ymateb i'ch ymholiad y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio. Am fwy o wybodaeth, gweler rhan dau o'n polisi preifatrwydd.