Diweddariad i gwsmeriaid: mae effaith COVID-19 wedi effeithio ar argaeledd plotiau ar gyfer y cynllun ar hyn o bryd, ond rydym yn gweithio'n agos gyda darparwyr plotiau er mwyn cyflwyno mwy o dir addas. Darllen mwy.
 

Ynglŷn â'r cynllun

Mae adeiladu eich cartref eich hun yng Nghymru newydd ddod yn haws.

Mae'r cynllun Hunan Adeiladu Cymru wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i helpu i gael gwared ar y rhwystrau a'r ansicrwydd sy'n atal pobl yng Nghymru rhag adeiladu eu cartrefi eu hunain.

Wrth wneud hynny, bydd tir annatblygedig neu a dan-ddefnyddir yn cael ei drawsnewid yn blotiau addas ar gyfer cartrefi hunan-adeiladu ac i adeiladu cartrefi pwrpasol newydd.

Mae plotiau ar gael gyda dyluniadau wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw i ddewis ohonynt ac mae rheoliadau cynllunio wedi'u cwblhau eisoes.

Gweinyddir cynllun Hunanadeiladu Cymru gan Fanc Datblygu Cymru a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Cyllid trwy Fanc Datblygu Cymru

Gwaredir â’r cyfyngiadau sy'n aml yn gysylltiedig â datblygiadau hunanadeiladu, mae Banc Datblygu Cymru yn rheoli cronfa gwerth £40 miliwn i gynorthwyo i ariannu'r adeiladau trwy ddarparu benthyciad datblygu hunanadeiladu o 75% o gost y plot, a chostau llawn adeiladu'r eiddo.

I gael mwy o wybodaeth am ariannu ewch i weld ar gyfer ymgeiswyr.

The scheme is designed to suit as many needs as possible and is open to everyone in Wales including but not limited to:

  • Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i weddu i gynifer o anghenion â phosibl ac mae'n agored i bawb yng Nghymru gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
  • Brynwyr tro cyntaf
  • Perchnogion tai presennol sy'n bwriadu cynyddu neu leihau maint eu cartref
  • Unigolion hŷn neu anabl sy'n bwriadu adeiladu tai pwrpasol addasol
  • Perchnogion tai sydd eisiau aros yn eu hardaloedd lleol ond ddim wedi gallu fforddio hynny o'r blaen.

I gael mwy o wybodaeth am feini prawf a chymhwyster ewch i weld ar gyfer ymgeiswyr.

 

 

Mae yna ddyluniadau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw ar gael i ddewis ohonynt ar dudalennau pasbort y plot.

Mae'r dyluniadau'n amrywio o ran maint a chost o 2 ystafell wely hyd at 5 ystafell wely.

Bydd effeithlonrwydd ynni yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer bob plot.

Sylwch mai dim ond mannau cychwyn yw dyluniadau o'r fath a gellir addasu dyluniadau i weddu i ddeiliaid a safleoedd penodol. Fodd bynnag, gallai gwneud hynny effeithio ar y costau adeiladu cyffredinol.

Er mwyn cymryd rhan yn y cynllun rhaid i bob adeiladwr fod wedi'i gofrestru gyda TrustMark.

Gallwch chwilio ar wefan Trustmark am adeiladwr cofrestredig lleol neu gallwch wahodd adeiladwr hysbys i ymuno â Trustmark ar-lein.

Cliciwch yma i chwilio am adeiladwr cofrestredig TrustMark.

Cliciwch yma i gofrestru fel adeiladwr ar gyfer y cynllun TrustMark.

 

 

If you're an applicant looking to apply please make sure you have read information on the following pages first:

Os ydych chi'n ymgeisydd sy'n dymuno gwneud cais gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth ar y tudalennau a ganlynol yn gyntaf:

Ar ôl i chi wneud hyn gallwch ddechrau dod o hyd i blot a gwneud cais ar-lein.

Os ydych chi'n adeiladwr sydd am gofrestru ar gyfer y cynllun, ewch i'r dudalen ar gyfer adeiladwyr am fanylion.