Diweddariad i gwsmeriaid: mae effaith COVID-19 wedi effeithio ar argaeledd plotiau ar gyfer y cynllun ar hyn o bryd, ond rydym yn gweithio'n agos gyda darparwyr plotiau er mwyn cyflwyno mwy o dir addas. Darllen mwy.
 

Rhanddeiliaid a phartneriaid

Rhanddeiliaid

Llywodraeth Cymru

Mae'r cynllun Hunanadeiladu Cymru wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i helpu i gael gwared ar y rhwystrau i ddarparu cartrefi hunan-adeiladu a chartrefi wedi eu hadeiladu yn bwrpasol yng Nghymru, wrth godi'r safon o ran dyluniad ac ansawdd adeiladu.

Rydyn ni am sicrhau bod hunan-adeiladu ar gael i lawer mwy o bobl yng Nghymru, nid yr aelwydydd mwyaf breintiedig yn unig. Gall dod o hyd i'r tir, llywio drwy ganiatâd cynllunio a gallu fforddio hunan-adeiladu tra'n talu costau byw fod yn rhwystrau gwirioneddol. Rydym wedi lansio'r cynllun hwn mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i oresgyn yr holl rwystrau hyn."

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James 

 

Banc Datblygu Cymru

Gweinyddir cynllun Hunan Adeiladu Cymru gan Fanc Datblygu Cymru trwy'r tîm Hunan Adeiladu Cymru. Mae'r banc Datblygu yn rheoli cronfa fuddsoddi gwerth £40 miliwn a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu benthyciadau datblygu hunan-adeiladu i gefnogi'r cynllun.

Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru i ddatgloi potensial economaidd Cymru a gwella'r economi leol trwy ddarparu cyllid cynaliadwy. Ar hyn o bryd mae'r banc datblygu yn rheoli ystod o gronfeydd cyhoeddus a phreifat sy'n dod i gyfanswm o dros £1 biliwn. I gael mwy o wybodaeth am y gwahanol gynlluniau y mae Banc Datblygu Cymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae'r cynllun Hunan Adeiladu Cymru eisiau cefnogi cynlluniau cenedlaethau'r dyfodol Llywodraeth Cymru. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y ddeddf yn https://developmentbank.wales/welsh-government-policy.

 

Partneriaid

Mae'r tîm Hunan Adeiladu Cymru yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i helpu i gyflawni'r cynllun:

  • Awdurdodau lleol
  • Cymdeithasau tai
  • TrustMark
  • National Custom & Self Build Association (NaCSBA)
  • Ffederasiwn y Meistri Adeiladu Cymru