Buddion Hunanadeiladu Cymru
- Cynllun Llywodraeth Cymru i gefnogi hunan-adeiladu
- Dewch o hyd i blotiau gyda chaniatâd cynllunio yn eu lle
- Osgowch dalu elw datblygwr trydydd parti ar adeilad newydd
- Dim ond ar ôl eu cwblhau y mae'r benthyciadau hunan-adeiladu a ddarperir yn daladwy
- Mwy o ddewis gyda dyluniad eich cartref
Gwybodaeth allweddol
Mae'r cynllun Hunanadeiladu Cymru wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i helpu i gael gwared ar y rhwystrau a'r ansicrwydd sy'n atal pobl yng Nghymru rhag adeiladu eu cartrefi eu hunain.
Wrth wneud hynny, bydd tir annatblygedig neu a dan-ddefnyddir yn cael ei drawsnewid yn blotiau addas ar gyfer cartrefi hunan-adeiladu ac i adeiladu cartrefi pwrpasol newydd.
Bydd blaenoriaethau ar y plotiau ac fe ellir eu gweld ar y tudalennau 'pasbort plot' unigol, ond mae'r cynllun wedi'i gynllunio i weddu i gynifer o anghenion â phosibl ac mae'n agored i bawb yng Nghymru.
Mae yna ddyluniadau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw ar gael i ddewis ohonynt ar dudalennau pasbort y plot.
Mae'r dyluniadau'n amrywio o ran maint a chost o 2 ystafell wely hyd at 5 ystafell wely.
Bydd effeithlonrwydd ynni yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer bob plot.
Er mwyn cymryd rhan yn y cynllun, rhaid i bob adeiladwr fod wedi'i gofrestru â TrustMark.
Gallwch chwilio ar wefan Trustmark am adeiladwr cofrestredig lleol neu gallwch wahodd adeiladwr hysbys i ymuno â Trustmark ar-lein.

Sut mae'n gweithio

Cam 1
Defnyddiwch ein gwefan i chwilio am safleoedd, dod o hyd i'ch plotiau, dewiswch hyd at 5 a gwneud cais ar-lein.

Cam 2
Adolygir eich cais ac os bydd yn llwyddiannus dyfernir plot.

Cam 3
Rydym yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i adeiladwr, cadarnhau eich dyluniadau a'ch costau, a chytuno ar gyllid.

Cam 4
Dyfernir cyllid, cwblheir y gwaith adeiladu, ad-delir y benthyciad a symudwch chi i mewn.