Mae cynllun Hunanadeiladu Cymru wedi ehangu i ddarparu ar gyfer ymgeiswyr sydd naill ai’n berchen ar eu tir eu hunain, neu sydd wedi dod o hyd i dir ar gael i adeiladu arno. Darganfyddwch fwy yma

Hunanadeiladu Cymru

Manteision Hunanadeiladu Cymru

Keys to your home
£210m

o fuddsoddiad wedi'i dargedu o'r cynllun

  • Cynllun y llywodraeth i gefnogi hunan-adeiladau ar eich tir
  • Nid oes angen ad-daliad hyd nes y cwblheir y gwaith adeiladu (hyd at uchafswm o ddwy flynedd)
  • Gallwn ariannu 100% o’r costau adeiladu ynghyd â hyd at 50% o werth y tir i helpu i wneud y plot yn barod i’w ddatblygu
  • Cewch gefnogaeth barhaus trwy gydol y cyfnod adeiladu gan swyddog Hunanadeiladu Cymru penodedig

 

Beth yw cynllun Hunanadeiladu Cymru?

Os ydych eisoes yn berchen ar dir, ni fu hi erioed yn haws i fynd ati i adeiladu eich cartref eich hun gyda chynllun Hunanadeiladu Cymru.

Sefydlwyd cynllun Hunanadeiladu Cymru gan Lywodraeth Cymru ac maen anelu at gael gwared ar y rhwystrau a’r ansicrwydd sy’n atal pobl yng Nghymru rhag adeiladu eu cartrefi eu hunain.  

Os ydych eisoes yn berchen ar dir, efallai y gallwch fenthyca hyd at 100% o gostau adeiladu, ynghyd â hyd at 50% o werth y tir i helpu i wneud y plot yn barod i’w ddatblygu (yn ddarostyngedig i’r asesiadau dichonoldeb tir a hyfywedd ariannol).

 

Sut mae'r broses ymgeisio yn gweithio?

Paratowch

Paratowch

Ewch ati i gael caniatâd cynllunio a siarad gydag Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol i ymchwilio'n llawn i opsiynau ariannu'r sector preifat

Penderfyniad mewn egwyddor

Penderfyniad mewn egwyddor

Cyflwynwch wybodaeth am eich tir i Hunanadeiladu Cymru a byddwn yn cwblhau asesiad dichonoldeb tir cyn eich gwahodd i wneud cais am benderfyniad mewn egwyddor (gan gynnwys gwiriad credyd meddal)

Penderfyniad mewn egwyddor alt="Cwblhewch eich manylion">

Cwblhewch eich manylion

Unwaith y bydd eich penderfyniad mewn egwyddor yn cael ei roi mae gennych hyd at dri mis i gwblhau cynlluniau a chostau adeiladu a chadarnhau'r adeiladwr a'r gweithwyr proffesiynol o'ch dewis, cyn cyflwyno'ch cais am gyllid

Cyflwynwch gais am gyllid

Cyflwynwch gais am gyllid

Manylion ariannol personol a sut rydych yn bwriadu ad-dalu'r benthyciad unwaith y bydd eich cartref wedi'i adeiladu. Bydd asesiad tanysgrifennu yn cael ei gynnal. Os yn llwyddiannus, byddwn yn gwneud cynnig i ariannu eich costau adeiladu

Meini prawf allweddol

Rhaid i ymgeiswyr sy’n adeiladu ar eu tir eu hunain neu ar dir y maent wedi’i nodi sicrhau bod gan y tir y maent yn dymuno adeiladu arno ganiatâd cynllunio addas cyn gwneud cais i ddefnyddio cynllun Hunanadeiladu Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am brosesau cynllunio yng Nghymru, cliciwch yn fan hyn.

Cyn defnyddio cynllun Hunanadeiladu Cymru, rhaid i ymgeiswyr archwilio opsiynau ariannu'r sector breifat yn llawn. Mae hyn oherwydd ein bod yn gynllun a gefnogir gan y llywodraeth ac ni ddylem gystadlu â benthycwyr prif ffrwd. Bydd cynghorydd ariannol annibynnol yn gallu helpu gyda hyn.

 

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais ar gyfer y cynllun Hunanadeiladu Cymru, cwblhewch ein ffurflen gyswllt drwy ddefnyddio'r botwm isod a bydd un o'n tîm arbenigol yn cysylltu â chi. 

Cysylltu â ni

 

Fel arall, gweler ein dogfen ganllaw i gael rhagor o fanylion am y cynllun a'r broses ymgeisio.