Mae cynllun Hunanadeiladu Cymru wedi ehangu i ddarparu ar gyfer ymgeiswyr sydd naill ai’n berchen ar eu tir eu hunain, neu sydd wedi dod o hyd i dir ar gael i adeiladu arno. Darganfyddwch fwy yma

Plot 1

Costau plot
£300,000
Dyluniadau
1, 2, 3
Mwyafswm gwelyau
4

Plot mawr wedi'i lleoli ym Mhentyrch, Caerdydd, gyda chaniatâd cynllunio llawn ar gyfer tŷ ar wahan 4 x ystafell wely.

Trosolwg o’r Plot

Mae'r plot yn ddyrchafedig (wedi ei godi) uwchlaw lefel y llwybr troed a bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'w lefelu mewn rhai rhannau; o bosibl hyd at ddyfnder o 2 fetr o flaen y plot sy'n wynebu Mountain Road.

Mae'r mieri helyg a phrysgwydd wedi cael ei glirio oddi ar y plot gan y perchennog presennol, ac mae rhai mannau lle mae yna Blanhigion Clymog Siapaneaidd sydd wedi cael eu trin yn broffesiynol.

Mae'r tirfeddiannwr wedi cynghori bod gwasanaethau yn eu lle. Nid yw tîm Hunanadeiladu Cymru wedi profi'r rhain, a chynghorir ymgeiswyr i wneud eu hymholiadau eu hunain mewn perthynas â hyn.

Dyluniadau plot ar gyfer y safle hwn

Rhoddwyd caniatâd cynllunio llawn ar gyfer eiddo ar wahân 4 x ystafell wely, sydd i'w weld ar dudalennau 8-9 (Cymraeg) a 25-26 (Saesneg) o'r canllaw dylunio.

Rhaid adeiladu eich cartref o fewn y ‘parth adeiladu’, a rhaid lleoli’r prif ddrychiad ar y llinell a nodir ar y lluniad, fel y manylir yn y Canllaw Dylunio, tudalen 9 (Cymraeg) neu dudalen 26 (Saesneg).

Ni ddylai eich cartref fod yn fwy na'r arwynebedd mewnol gros uchaf a ganiateir (AMG) o oddeutu 3,000 Tr. Sg. Yr Ardal Fewnol Gros yw arwynebedd adeilad wedi'i fesur i wyneb mewnol y waliau perimedr ar bob lefel llawr. Caniateir uchafswm uchder deulawr.

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus wyro oddi wrth y cynlluniau a ganiateir ar y ddealltwriaeth y bydd yn debygol o orfod talu mwy o ffioedd ymgynghori dylunio, ac ymofyn rhagor o ddeialog gydag adran gynllunio'r Awdurdod Lleol. Mae detholiad o ddyluniadau amgen wedi'u cynnwys yn y canllaw dylunio i ddarparu enghraifft o'r mathau o ddyluniadau a allai ffitio ar y plot penodol hwn.

Dyluniadau: 1, 2, 3 Canllaw Dylunio PDF 960.21 KB

Cynllun adeiladwr achrededig

Rhaid i bob adeiladwr fod wedi'i gofrestru gyda Trustmark oni nodir yn wahanol. Gallwch chwilio ar wefan TrustMark am adeiladwr cofrestredig lleol neu gallwch wahodd adeiladwr hysbys i ymuno ag TrustMark ar-lein.

Visit TrustMark

Hoffech chi gofrestru'ch diddordeb mewn mwy nac un plot ar y safle hwn?

Ie
Na