Mae cynllun Hunanadeiladu Cymru wedi ehangu i ddarparu ar gyfer ymgeiswyr sydd naill ai’n berchen ar eu tir eu hunain, neu sydd wedi dod o hyd i dir ar gael i adeiladu arno. Darganfyddwch fwy yma

Hunanadeiladu Cymru

Mae adeiladu eich cartref eich hun yng Nghymru newydd ddod yn haws.

Eglurhad o'r broses – gwneud cais am blot

Cam 1

Cam 1

Defnyddiwch ein gwefan i chwilio am safleoedd, dod o hyd i'ch plotiau, dewiswch hyd at 5 a gwneud cais ar-lein.

Cam 2

Cam 2

Adolygir eich cais ac os bydd yn llwyddiannus dyfernir plot.

Cam 2 alt="Cam 3">

Cam 3

Rydym yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i adeiladwr, cadarnhau eich dyluniadau a'ch costau, a chytuno ar gyllid.

Cam 4

Cam 4

Dyfernir cyllid, cwblheir y gwaith adeiladu, ad-delir y benthyciad a symudwch chi i mewn.

Gwybodaeth allweddol

Mae cynllun Hunanadeiladu Cymru wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i helpu i gael gwared ar y rhwystrau a’r ansicrwydd sy’n atal pobl yng Nghymru rhag adeiladu eu cartrefi eu hunain.

Wrth wneud hynny, bydd tir nad yw wedi’i ddatblygu’n ddigonol neu dir nas defnyddir ddigon yn cael ei drawsnewid yn blotiau addas ar gyfer cartrefi hunanadeiladu newydd a chartrefi pwrpasol.

Canfyddwch fwy

Gall ymgeiswyr naill ai wneud cais am blot sydd ar gael o fewn cynllun Hunanadeiladu Cymru, defnyddio eu tir eu hunain i adeiladu arno, neu adeiladu ar dir sydd ar gael y maent wedi dod o hyd iddo.

Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i ddiwallu cymaint o anghenion â phosibl ac mae'n agored i bawb yng Nghymru.

Canfyddwch fwy

Mae yna ddyluniadau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw ar gael i ddewis ohonynt ar dudalennau pasbort y plot.

Mae'r dyluniadau'n amrywio o ran maint a chost o 2 ystafell wely hyd at 5 ystafell wely.

Bydd effeithlonrwydd ynni yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer bob plot.

Canfyddwch fwy

 

Er mwyn cymryd rhan yn y cynllun, rhaid i bob adeiladwr fod wedi'i gofrestru â TrustMark.

Gallwch chwilio ar wefan Trustmark am adeiladwr cofrestredig lleol neu gallwch wahodd adeiladwr hysbys i ymuno â Trustmark ar-lein.

Canfyddwch fwy